<p>Y Gronfa Triniaethau Newydd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 28 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 2:10, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am yr ateb yna. Mae'r gronfa driniaeth newydd yn sicr yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflawni ei haddewid etholiadol o 2016 ac, yn ôl a ddeallaf, bydd y gronfa driniaeth newydd honno’n helpu i hwyluso mynediad at feddyginiaethau newydd sydd wedi eu hargymell gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Iechyd a Gofal, NICE, a Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan, ar gyfer llu o afiechydon, gan helpu, heb amheuaeth, unigolion di-ri â salwch sy'n bygwth bywyd yma yng Nghymru. Rwy'n deall mai dyddiau cynnar iawn yw hi, ond a gaf i ofyn ein bod yn cael diweddariadau rheolaidd ar gynnydd o ran y mynediad at y gronfa driniaeth newydd ac unrhyw ffigurau y gellid eu cysylltu â hynny?