1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 28 Mawrth 2017.
6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gronfa triniaethau newydd? OAQ(5)0533(FM)
Gwnaf. Mae pob bwrdd iechyd wedi derbyn eu dyraniad llawn o £16 miliwn ar gyfer y gronfa driniaeth newydd a oedd yn ddyledus ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gronfa driniaeth newydd cyn toriad yr haf.
Diolch i chi am yr ateb yna. Mae'r gronfa driniaeth newydd yn sicr yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflawni ei haddewid etholiadol o 2016 ac, yn ôl a ddeallaf, bydd y gronfa driniaeth newydd honno’n helpu i hwyluso mynediad at feddyginiaethau newydd sydd wedi eu hargymell gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Iechyd a Gofal, NICE, a Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan, ar gyfer llu o afiechydon, gan helpu, heb amheuaeth, unigolion di-ri â salwch sy'n bygwth bywyd yma yng Nghymru. Rwy'n deall mai dyddiau cynnar iawn yw hi, ond a gaf i ofyn ein bod yn cael diweddariadau rheolaidd ar gynnydd o ran y mynediad at y gronfa driniaeth newydd ac unrhyw ffigurau y gellid eu cysylltu â hynny?
Cewch, rwy’n siŵr y gellid gwneud hynny. Gallaf ddweud, fodd bynnag, ers mis Ionawr 2015, bod meddyginiaethau newydd a argymhellwyd gan NICE neu Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan wedi cael eu rhoi ar gael i gleifion ar draws amrywiaeth o gyflyrau. Felly, yn ystod y ddau fis cyntaf, mae’r gronfa driniaeth newydd eisoes wedi gwneud gwahaniaeth amlwg i'r meddyginiaethau sydd ar gael i bobl Cymru.
Prynhawn da, Prif Weinidog. A allech chi roi trosolwg i ni efallai o ba drefniadau monitro sydd ar waith i sicrhau bod y cyllid sydd wedi mynd i’r byrddau iechyd ar gyfer y fenter hynod werth chweil hon yn cael ei wario ar y fenter hon yn unig?
Gallaf. Ceir monitro llawn o hynny ac rydym ni’n gweld canlyniadau hynny drwy'r 15 o feddyginiaethau yr wyf i wedi eu crybwyll eisoes sydd wedi eu rhoi ar gael.