Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 28 Mawrth 2017.
Diolch. Ie, rwy’n deall mai mater i'r cyngor yw hwn yn bennaf, ond mae'r orsaf fysiau yn fater sy'n peri pryder cynyddol i drigolion de Cymru yn gyffredinol. Bu pryderon ers cryn amser y gallai’r cyfleuster newydd fod yn rhy fach a cheir pryderon nawr am y cyllid hefyd; ceir y mater bach hefyd nad ydym yn gwybod eto a fydd cilfannau i goetsys yn yr orsaf—nid yw dim o hyn yn helpu gyda nod datganedig Llywodraeth Cymru o annog trafnidiaeth integredig. Gan fod Caerdydd canolog yn ganolbwynt mor bwysig i’r rhanbarth cyfan, a all Llywodraeth Cymru wneud unrhyw ymyrraeth yn hyn o beth i sicrhau bod teithwyr yn cael cyfleuster o'r radd flaenaf yn y pen draw, yn hytrach na llanast?