<p>Rhaglenni Mentoriaeth Menywod</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 28 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:16, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu bod hynny’n hollol wir. Mae Chwarae Teg yn rhan o'r cynllun hwnnw. Mae ganddo gynllun strategol tair blynedd i hyrwyddo cydraddoldeb. Ceir arfau eraill sydd ar gael i ni hefyd. Er enghraifft, comisiynwyd ‘Menywod Dawnus ar gyfer Cymru Lwyddiannus' gan y prif gynghorydd gwyddonol, gyda'r nod o gael data cyfredol a syniadau cyfredol ar ymdrin â'r problemau hirdymor o niferoedd annigonol o fenywod yn astudio gwyddoniaeth ac yn cychwyn a ffynnu mewn gyrfaoedd gwyddoniaeth. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog, Julie James, wedi derbyn yr argymhellion mewn datganiad yn ôl ym mis Ionawr. Dyna ddwy enghraifft, ymhlith llawer, o'r gwaith sy'n cael ei wneud i sicrhau cydraddoldeb gwirioneddol yn ein cymdeithas.