Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 28 Mawrth 2017.
Mater i'r byrddau iechyd a Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yw'r penderfyniad ar yr uned iechyd meddwl amenedigol ar gyfer cleifion mewnol. Ond ers 2016, mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £1.5 miliwn yn ychwanegol y flwyddyn i bob BILl ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol yn y gymuned.