Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 28 Mawrth 2017.
Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Rwy'n gobeithio y bydd yn cael y cyfle i glywed profiadau mamau yng Nghymru sydd wedi bod yn ddigon dewr i siarad am eu profiadau unigol, fel Charlotte Harding o Gaerdydd, y cymerodd ei gŵr ddwy flynedd i ffwrdd o'r gwaith i ofalu amdani hi a’u dau fachgen ar ôl datblygu seicosis ôl-enedigol. Rwyf wedi defnyddio meini prawf Llywodraeth Cymru ei hun ar gyfer y sefyllfa bresennol yn y wlad hon, yn seiliedig ar yr wybodaeth yr wyf wedi ei chael gan BILl, ac nid ydynt yn bodloni meini prawf y Llywodraeth ei hun. Rydym ni’n gwybod ei fod yn mynd i gostio mwy i anfon mamau o Gymru i ganolfannau cleifion mewnol yn Lloegr nag y byddai wedi ei gostio i gadw'r cyfleusterau hyn ar agor yng Nghymru ac rydym ni’n gwybod bod darpariaeth gymunedol yn anghyson. Ond gan roi gwleidyddiaeth o'r neilltu, a gaf i ymbil ar y Prif Weinidog i roi’r mater hwn, fel mater o frys, ar frig ei agenda fel nad yw mamau yng Nghymru yn wynebu'r dewis o gael eu gwahanu oddi wrth eu babanod newydd-anedig neu eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd neu, yn waeth fyth, ddim yn cael y cyfleusterau iechyd meddwl y maen nhw’n eu haeddu yn eu gwlad eu hunain?