Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 28 Mawrth 2017.
A gaf i esbonio'r sefyllfa? Yn y tair blynedd diwethaf, derbyniwyd llai na phump o fenywod i uned cleifion mewnol yng Nghymru. Dyna'r broblem. Y broblem wedyn, wrth gwrs, yw na allwch chi redeg uned arbenigol gyda’r niferoedd hynny. Ni ellir ei wneud. Ni fydd unrhyw gorff achredu yn caniatáu i chi redeg uned arbenigol ar y sail honno. Ni all fod yn uned arbenigol gyda’r niferoedd hynny. Rwy’n cytuno ag ef am ddifrifoldeb y cyflwr. Rwy’n cytuno ag ef am beidio â gwahanu mamau oddi wrth fabanod, a dyna pam yr ydym ni’n rhoi'r cyllid ychwanegol i wasanaethau iechyd meddwl amenedigol yn y gymuned er mwyn sicrhau nad oes rhaid i bobl fod yn gleifion mewnol. Felly, yn hytrach na chanolbwyntio ar yr ysbyty, mae'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan wneud yn siŵr bod y gefnogaeth ganddyn nhw yn y gymuned, yn hytrach na cheisio cadw gwasanaeth ar agor yr oedd yn amlwg nad oedd fawr o ddefnydd arno—ac, o ganlyniad i hynny, roedd problem o ran iddi barhau fel uned arbenigol.