Part of 11. 9. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) – Senedd Cymru am 4:02 pm ar 28 Mawrth 2017.
Rwyf wedi fy nallu gan esboniad Mark Reckless yno ar gyfer cynnig ei welliannau—hapus i gefnogi hynny.
Iawn, rwy’n awyddus i gynnig fy ngwelliant 32, sydd yn unol â gwelliannau 35 a 37 Mark Reckless. Fel yr eglurodd Mark Reckless, credwn y bydd y gwelliant hwn—ei welliant ef—yn symleiddio trafodiadau tir trawsffiniol. I'r rhai ohonoch nad oedd yn eistedd ar y Pwyllgor Cyllid yn ystod y broses Cyfnod 2 yr aethom drwyddi, ac fe fentraf eich bod yn rhoi ochenaid o ryddhad erbyn hyn nad oeddech, roedd llawer o faterion a gododd o faterion trawsffiniol, yr ydym yn credu oedd angen edrych arnynt ac oedd angen eu symleiddio. Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet roi llawer o resymau da ymlaen yn erbyn pam na ddylid mynd ar drywydd ein gwelliannau ar yr adeg honno, ond serch hynny, credwn fod symlrwydd wrth ymdrin â'r materion trawsffiniol yn bwysig iawn. Mae hwn yn faes cwbl newydd i Lywodraeth Cymru—maes newydd, yn wir, ar gyfer ymarferwyr ar draws y ffin yn Lloegr yn ogystal—felly mae'n bwysig ein bod yn cael y ddeddfwriaeth hon yn iawn.
Mae fy ngwelliant 32 yn adlewyrchu pwyntiau Ysgrifennydd y Cabinet i'r Pwyllgor Cyllid yn ystod Cyfnod 2, pan nododd bod mapiau digidol ar gael gan y Gofrestrfa Tir ac yn cynnig cyfle i'r pwyllgor weld y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei chael gan y Gofrestrfa Tir. Credwn y bydd hyn—yn dilyn ymlaen o bwyntiau Mark Reckless— yn darparu dosraniad mwy penodol ar gyfer eiddo trawsffiniol, a fyddai'n rhannu'n deg y refeniw treth rhwng Awdurdod Cyllid Cymru a Chyllid a Thollau EM. A dyna beth yr ydym yn credu y mae’r gwelliannau hyn yn y grŵp hwn yn ymwneud â nhw. Mae'n ymwneud â darparu symlrwydd, mae'n ymwneud â rhoi sicrwydd—rydym yn chwilio am drosglwyddiad llyfn o dreth y dreth stamp yn y DU i'n treth trafodiad tir, ac mae’r gwelliannau hyn yn cael eu hanelu at wneud hynny.
Os caf fi sôn yn fyr am welliant 29—byddwn hefyd yn cefnogi hwnnw, gan ein bod yn credu ei fod yn helpu Awdurdod Cyllid Cymru i gymhwyso arferion gorau mewn perthynas â thir sydd n rhannol yng Nghymru ac yn rhannol yn Lloegr.