<p>Grŵp 1: Tir sy’n Rhannol yng Nghymru ac yn Rhannol yn Lloegr (Gwelliannau 35, 37, 32, 36, 29)</p>

Part of 11. 9. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) – Senedd Cymru am 4:04 pm ar 28 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 4:04, 28 Mawrth 2017

Hoffwn gyflwyno gwelliant 29 yn ffurfiol. Mae’r gwelliant yn cyflwyno is-adran newydd i adran 9 y Bil, sy’n golygu bod angen i Awdurdod Cyllid Cymru gyhoeddi canllawiau ynghylch trafodiadau sy’n ymwneud â thir neu eiddo sy’n rhannol yng Nghymru ac yn rhannol yn Lloegr. Roedd natur y broses ar gyfer delio â thrafodiadau trawsffiniol yn ogystal ag union leoliad y ffin rhwng Cymru a Lloegr wedi ysgogi llawer o ddiddordeb a thrafodaeth yn y pwyllgor, ac roeddem ni wedi sylweddoli bod nifer yr eiddo a oedd yn gallu cael eu heffeithio yn fwy na thybiwyd yn gynt. Ond roeddem ni hefyd wedi sylweddoli nad Cymru yw’r unig wlad ar y ddaear sydd yn rhannu ffin gyda gwlad arall, ac felly, wrth gwrs, roedd yna fodd ffeindio ateb i hyn.

Mae’r pryderon ynghylch sut fyddai’r dreth yn gweithredu yn rhai digon dealladwy a chredwn ei bod hi’n ddisgwyliad rhesymol gan berchnogion eiddo ac ymarferwyr treth fod gwybodaeth glir ar gael am sut y bydd y dreth newydd hon yn gweithredu mewn cysylltiad ag eiddo trawsffiniol. Mi fyddai’r gwelliant yma yn mynd i’r afael â’r ddau ofid trwy osod disgwyliadau ar Awdurdod Cyllid Cymru i gyhoeddi canllawiau ar gyfer trafodiadau trawsffiniol yn ogystal â chanllawiau ar leoliad y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae’r gwelliant yma yn datblygu, felly, ar welliant tebyg a gyflwynwyd yn ystod Cyfnod 2 a oedd yn canolbwyntio ar ddynodi’r ffin yn unig ac, yn yr un modd, yn mynd ymhellach na gwelliant 32 a gyflwynir yn enw Nick Ramsay.