<p>Grŵp 2: Cyfraddau Treth a Bandiau Treth (Gwelliannau 38, 39, 33, 40, 41, 42)</p>

Part of 11. 9. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) – Senedd Cymru am 4:22 pm ar 28 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 4:22, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n fwy na pharod i gefnogi'r prif welliant yn y grŵp hwn, fel y’i cynigiwyd gan Mark Reckless. Roedd y prif welliant yn destun, fel y dywedodd Mark, llawer o drafod yng Ngham 2, ac mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn hapus i'w gefnogi. Rwy'n credu ei bod yn synhwyrol i gael cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer bandiau treth ar wyneb y Bil. Mae’n digwydd mewn lleoedd eraill; does dim rheswm pam na allem osod y cynsail hwnnw yma a darparu'r math o eglurder a sicrwydd ar gyfer ymarferwyr a rhanddeiliaid y mae eu hangen arnynt unrhyw bryd pan ydych yn cael trawsnewid o un gyfundrefn dreth i un arall. Rydym yn gwybod bod Llywodraeth Cymru yn credu yn y wireb o gysondeb; mae hynny wedi cael ei nodi gan Ysgrifennydd y Cabinet ac, yn wir, gan ei ragflaenydd, arweinydd presennol y tŷ. Felly, er mwyn helpu’r pontio o system y DU i'r system yng Nghymru, byddai cael cymaint o wybodaeth ag y bo modd ymlaen llaw, ar wyneb y Bil, neu sut bynnag yr ydych am ei wneud, rydym yn credu yn fuddiol.

Nawr, wedi dweud hynny, rwy’n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn anesmwyth ynglŷn â gwneud hyn. Efallai eu bod yn teimlo fod eu dwylo wedi’u clymu ar bwynt rhy gynnar. Felly, rwy’n aros i weld beth sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i'w ddweud o ran delio â'r mater hwn, ac, os mai cyfaddawd fydd, ar ddyddiad penodol a bennir cyn y mae’r dreth hon, y Dreth Trafodiadau tir , yn dod i rym yng Nghymru—os, ar ryw ddyddiad gallwn gael sicrwydd o wybod beth fydd y cyfraddau treth, yna rwy'n credu y bydd hynny'n gyfaddawd. Ond bydd yn gyfaddawd yn absenoldeb ffordd well o wneud pethau, ac rwy'n credu bod angen i ni, fel Cynulliad, ac fel yr ydym wedi ei wneud gyda’r Pwyllgor Cyllid, i gael trafodaeth am sut yn union y byddwn yn bwrw ymlaen â pholisi cyllidol yn y lle hwn wrth i ddatganoli trethi a phwerau cyllidol ddigwydd, a byddai Bil cyllid ar ryw adeg yn y dyfodol yn fodel yr wyf yn meddwl y dylem edrych arno fel ffordd well o fynd ymlaen a rhoi’r sicrwydd hwnnw sydd ei angen ar bobl. Ond rwy’n fwy na hapus i gefnogi gwelliant Mark Reckless.

Mae'r gwelliant dilynol gennyf i yn y grŵp hwn yn gysylltiedig ag ef, ac mae’n symud ymlaen ymhellach o hynny, lle byddwn—.  Pan fyddaf yn dod o hyd i fy nhudalen—.  Mae'r gwelliant yn darparu trefniant trosiannol er mwyn rhoi sicrwydd i’r farchnad eiddo, ac mae ein gwelliant yn benodol yn gysylltiedig â'r ffordd y mae cyfraddau gan Lywodraeth yr Alban wedi eu pennu. Felly, dwi'n hapus i gefnogi hyn.