11. 9. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) – Senedd Cymru am 4:17 pm ar 28 Mawrth 2017.
Y grŵp nesaf yw grŵp 2, sy’n ymwneud â chyfraddau treth a bandiau treth. Gwelliant 38 yw’r prif welliant yn y grŵp yma. Rydw i’n galw ar Mark Reckless i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant yma a’r gwelliannau eraill yn y grŵp. Mark Reckless.
Diolch, Llywydd, ac rwy’n addo ildio’r llawr i eraill cyn bo hir fel y gwneuthum gyda’r prif welliannau ar y ddau grŵp cyntaf. Fe wnes i addasu fy nghyfres flaenorol o welliannau yng ngoleuni'r hyn a glywsom yn ystod y cam pwyllgor a nifer o welliannau eraill yr euthum ar eu trywydd bryd hynny nad ydw i’n mynd ar eu trywydd yma. Fodd bynnag, mae'r gwelliant hwn yn yr un ffurf ag a roddais i'r pwyllgor, ac rwy’n credu ei fod yn newid allweddol o egwyddor. Derbyniodd ddwy bleidlais yn y pwyllgor, tri yn erbyn a dau ymataliad. Felly, rwy’n meddwl ei fod yn rhywbeth gwerth ei roi i'r Siambr yn ei gyfanrwydd.
Rydym wedi cael dadleuon gan Ysgrifennydd y Cabinet mewn perthynas â hyn, ac rwy’n meddwl bod cwpl o faterion allweddol sy'n bwysig. Mae sicrwydd i drethdalwyr. Rydym i gyd yn cytuno bod hynny’n rhywbeth sy’n ddeniadol ac y dylem ei gael i'r graddau mwyaf posibl. Roedd y pwyllgor, rwy’n meddwl, yn falch bod Ysgrifennydd y Cabinet, os cofiaf yn iawn, wedi gwneud addewid yng Ngham 2, ei fod, erbyn mis Hydref, yn mynd i gyhoeddi yn ffurfiol beth fyddai'r cyfraddau pan fyddai’r dreth trafodiadau tir yn cychwyn fis Ebrill nesaf, y flwyddyn nesaf . Ei fwriad drwyddi draw, fel y mae wedi cyfleu, rwy’n deall, yw cael y cyfraddau hynny yn parhau ar yr un sail ag y mae treth dir y dreth stamp wedi cael ei chymhwyso ar sail y DU, er, wrth gwrs, mae'n bosibl y gallai’r Canghellor ar lefel y DU newid y cyfraddau hynny i raddau rhwng nawr a phryd hynny. Mae'n dda y bydd gennym sicrwydd, o leiaf o fis Hydref, ac rwy’n gwerthfawrogi hynny. Mae'n iawn hefyd bod y cyfraddau, pan fyddant yn dod, a newidiadau i'r cyfraddau hynny yn mynd drwy weithdrefn penderfyniad cadarnhaol. Unwaith eto, mae hynny’n rhoi lefel o ddiogelwch o ran mewnbwn gan Aelodau ar ba bynnag safbwynt a gymer y Llywodraeth ynghylch yr hyn y dylai’r cyfraddau treth hynny fod. Fodd bynnag, ni fydd penderfyniad o'r fath yn agored i ddiwygiad; mae’n dod gan Weinidog, dyna ei farn ef, ac mae naill ai'n cael ei dderbyn neu ei wrthod, ac nid yn offeryn sylfaenol llawn, deddfwriaethol y Cynulliad hwn.
Felly, rwy’n meddwl mai dyna bwyntiau’r ddadl yno, ond rwy’n meddwl bod gwell dadl, ac un o egwyddor yw honno. Dyma'r dreth gyntaf yn y cyfnod modern sy'n cael ei datganoli i'r Cynulliad hwn i'w gweinyddu, i godi, ar ran pobl Cymru, ac mae'n ymddangos i mi—ac, mi dybiwn i, efallai i nifer ehangach o Aelodau—y byddai'n iawn i ni, fel y deddfwyr a etholwyd gan bobl Cymru, i benderfynu pa gyfraddau treth y dylent eu talu, yn enwedig ar yr adeg arwyddocaol iawn hwn ac, i rai yn y Siambr hon, yn gyflawniad pwysig iawn, o ran yr adeg honno, i fod yn codi’r dreth honno fel Cynulliad etholedig. Eto, cynigir yn lle hynny na fyddwn yn cymryd y penderfyniad hwnnw, na fydd y cyfraddau hynny ar wyneb y Bil, a byddwn yn ei adael i ddisgresiwn gweinidogol i’w benderfynu yn ddiweddarach yr hyn y dylai’r cyfraddau hynny fod, ac y dylem ar y gorau gael proses eilaidd lle na allwn ond gwrthod neu dderbyn ac nid ydym ein hunain yn ysgrifennu a phenderfynu ac ystyried beth y dylai’r cyfraddau treth hynny fod. Felly, rwy’n cyflwyno gwelliant 38 er mwyn rhoi cyfle i'r Cynulliad i roi ei farn yn ei gyfanrwydd, ac rwy’n edrych yn benodol at Blaid Cymru, fel y maent yn galw eu hunain, a ataliodd ar y cam pwyllgor ar hyn, ac y mae hwn yn fater o bwys mawr iddynt ac efallai i rai yn gam allweddol ar y ffordd i Gymru annibynnol, ac eto, pan ddaw i’r pen, ni fyddant—oni bai eu bod yn gwneud rhywbeth yn wahanol na'r hyn yr wyf yn disgwyl—yn mynnu hawliau’r Cynulliad hwn i siarad dros bobl Cymru i ni fel deddfwyr etholedig i bennu cyfraddau treth, ond yn hytrach bydd yn caniatáu hynny i Weinidogion.
Rwy'n fwy na pharod i gefnogi'r prif welliant yn y grŵp hwn, fel y’i cynigiwyd gan Mark Reckless. Roedd y prif welliant yn destun, fel y dywedodd Mark, llawer o drafod yng Ngham 2, ac mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn hapus i'w gefnogi. Rwy'n credu ei bod yn synhwyrol i gael cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer bandiau treth ar wyneb y Bil. Mae’n digwydd mewn lleoedd eraill; does dim rheswm pam na allem osod y cynsail hwnnw yma a darparu'r math o eglurder a sicrwydd ar gyfer ymarferwyr a rhanddeiliaid y mae eu hangen arnynt unrhyw bryd pan ydych yn cael trawsnewid o un gyfundrefn dreth i un arall. Rydym yn gwybod bod Llywodraeth Cymru yn credu yn y wireb o gysondeb; mae hynny wedi cael ei nodi gan Ysgrifennydd y Cabinet ac, yn wir, gan ei ragflaenydd, arweinydd presennol y tŷ. Felly, er mwyn helpu’r pontio o system y DU i'r system yng Nghymru, byddai cael cymaint o wybodaeth ag y bo modd ymlaen llaw, ar wyneb y Bil, neu sut bynnag yr ydych am ei wneud, rydym yn credu yn fuddiol.
Nawr, wedi dweud hynny, rwy’n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn anesmwyth ynglŷn â gwneud hyn. Efallai eu bod yn teimlo fod eu dwylo wedi’u clymu ar bwynt rhy gynnar. Felly, rwy’n aros i weld beth sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i'w ddweud o ran delio â'r mater hwn, ac, os mai cyfaddawd fydd, ar ddyddiad penodol a bennir cyn y mae’r dreth hon, y Dreth Trafodiadau tir , yn dod i rym yng Nghymru—os, ar ryw ddyddiad gallwn gael sicrwydd o wybod beth fydd y cyfraddau treth, yna rwy'n credu y bydd hynny'n gyfaddawd. Ond bydd yn gyfaddawd yn absenoldeb ffordd well o wneud pethau, ac rwy'n credu bod angen i ni, fel Cynulliad, ac fel yr ydym wedi ei wneud gyda’r Pwyllgor Cyllid, i gael trafodaeth am sut yn union y byddwn yn bwrw ymlaen â pholisi cyllidol yn y lle hwn wrth i ddatganoli trethi a phwerau cyllidol ddigwydd, a byddai Bil cyllid ar ryw adeg yn y dyfodol yn fodel yr wyf yn meddwl y dylem edrych arno fel ffordd well o fynd ymlaen a rhoi’r sicrwydd hwnnw sydd ei angen ar bobl. Ond rwy’n fwy na hapus i gefnogi gwelliant Mark Reckless.
Mae'r gwelliant dilynol gennyf i yn y grŵp hwn yn gysylltiedig ag ef, ac mae’n symud ymlaen ymhellach o hynny, lle byddwn—. Pan fyddaf yn dod o hyd i fy nhudalen—. Mae'r gwelliant yn darparu trefniant trosiannol er mwyn rhoi sicrwydd i’r farchnad eiddo, ac mae ein gwelliant yn benodol yn gysylltiedig â'r ffordd y mae cyfraddau gan Lywodraeth yr Alban wedi eu pennu. Felly, dwi'n hapus i gefnogi hyn.
Dydw i ddim yn hollol siŵr os oedd Mark Reckless yn cynnig, os byddwn yn cefnogi’r gwelliant hwn, y byddai'n dod ar draws at y mater o annibyniaeth i Gymru. Rwy'n credu bod UKIP yn ymbalfalu am genhadaeth newydd ac ystyr newydd i'r gair 'annibyniaeth', felly—. Mae'n ymddangos i olygu pob math o bethau o Nathan Gill i Douglas Carswell ac yn ddiamau rhywbeth newydd gan Mark Reckless. Ond byddwn yn aros i weld.
Nid oes amheuaeth—ac roedd cytundeb trawsbleidiol yn y pwyllgor, mae'n wir— pan fyddwch yn pasio deddfwriaeth dreth, mae'n well i roi'r cyfraddau treth naill ai ar wyneb y ddeddfwriaeth neu mewn deddfwriaeth sylfaenol, oherwydd dylem i gyd yma fod yn pleidleisio ar gyfer cyfraddau trethi. Ni ddylem adael i Weinidogion benderfynu arno. Ni ddylem adael iddynt benderfynu dros y Pasg neu'r Nadolig, ac yna yn sydyn cael ein hunain mewn sefyllfa lle mae'n bleidlais ‘cymerwch ef neu beidio’ ar ryw fath o is-ddeddfwriaeth.
Ond rydym mewn sefyllfa braidd yn anodd gan nad oes gennym y pwerau cyllidol deddfu llawn a fydd yn dod o Ddeddf Cymru 2017. Nid ydynt yn dechrau, yn ôl pob tebyg, tan fis Ebrill 2018. Nawr, pan fyddant yn dechrau, yna rwy’n gobeithio—ac mae'n sicr yn fwriad gan y Pwyllgor Cyllid, rwy’n gobeithio gyda chefnogaeth yr holl bleidiau yn y lle hwn—ein bod wedyn yn ymgysylltu ac yn cychwyn ar weithdrefn Bil cyllid priodol. Dyna beth sy'n digwydd yn Senedd yr Alban. Mae cyllidebau yn cael eu cymryd drwyddo gan Fil cyllid. Mae cyfraddau treth yn cael eu datgan. Rydych yn gweld yn glir yr hyn yr ydych yn pleidleisio o’i blaid a goblygiadau'r hyn yr ydych yn pleidleisio o’i blaid. Does dim amheuaeth, fel y casglodd Nick Ramsay, rwy’n meddwl, gyda’i sylwadau, mai dyna'r ffordd orau ymlaen.
Y cwestiwn sydd gennym yn awr, fodd bynnag, yw sut yr ydym yn trin y Bil hwn heb y pwerau hynny, a heb y pwerau hynny wedi cychwyn eto gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Mae'n alwad anodd, ac yn sicr fe wnaethom gyflwyno gwelliant yn y pwyllgor oedd yn rhoi cyfraddau ar wyneb y Bil i brofi beth fyddai ymateb y Llywodraeth. Ymateb y Llywodraeth i bob pwrpas yw dweud eu bod yn addo—ac mae gennym ymrwymiad y pwyllgor yr wy’n credu y gellir ei orfodi yn y termau hynny—i ddwyn ymlaen y cyfraddau a’r bandiau treth erbyn mis Hydref eleni. Nawr, o safbwynt Plaid Cymru, mae hynny’n rhoi'r math o sicrwydd sydd ei angen ar y rhai sydd â diddordeb mewn trethi yng Nghymru. Mae'n ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru y gallwn eu galw i gyfrif, ond nid yw'n golygu ein bod yn ymgilio o'r pwynt sylfaenol y bydd, dros y flwyddyn neu ddwy nesaf, yn rhaid i ni weithio i roi deddfwriaeth treth drwy'r lle hwn fel dull Bill cyllid sylfaenol. Mae hynny'n rhywbeth y mae’r Pwyllgor Cyllid ei hun yn awyddus i’w wneud—cymryd tystiolaeth gan ddeddfwrfeydd eraill, a gweld sut y caiff ei wneud mewn deddfwrfeydd eraill, a gweld sut y mae'n cael ei wneud mewn mannau eraill drwy'r Deyrnas Unedig hefyd. Mae'n rhywbeth yr ydym am weithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet arno, ac, yn yr amgylchiadau hynny, rwy’n meddwl ei bod yn briodol ac yn ganiataol, os hoffwch chi, i’r Llywodraeth fwrw ymlaen â'r Bil yn y ffurf bresennol, gyda'r addewid y byddwn yn clywed y cyfraddau trethiant llawn yn yr hydref. Ar y sail honno, ni fydd Plaid Cymru yn cefnogi'r gwelliant hwn.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet.
Diolch, Llywydd. Rwy'n cydnabod y bydd trethdalwyr a busnesau eisiau sicrwydd ynghylch faint o dreth y byddant yn ei thalu dan y dreth trafodiadau tir cyn Ebrill 2018. Fodd bynnag, fy marn i yw y byddai cynnwys cyfraddau a bandiau ar wyneb y Bil hwn, ar hyn o bryd, 12 mis o hyd cyn y bydd y dreth yn cael ei datganoli i Gymru, rwy’n credu, yn cynnig golwg a allai fod yn gamarweiniol o sicrwydd heb y sylwedd angenrheidiol.
Mae Mark Reckless yn credu bod y ddeddfwrfa rhywsut yn ildio ei huchelfraint i'r Weithrediaeth drwy beidio â rhoi cyfraddau a bandiau ysgrifenedig ar wyneb y Bil, ac rwy'n credu bod hynny'n camgymryd am ddau reswm. Yn gyntaf, byddai mynnu bod y ddeddfwrfa yn pennu cyfraddau a bandiau ar y pwynt hwn yn gwahodd yr Aelodau i wneud penderfyniad o'r fath yn absenoldeb y wybodaeth angenrheidiol i wneud y penderfyniad hwnnw mewn ffordd gytbwys. Yn ail, mae ei ddadl yn awgrymu bod penderfyniadau yn y dyfodol wedi cael eu hildio heb eu gwirio i'r Weithrediaeth. Mewn gwirionedd, yr hyn a fydd yn digwydd fydd cynnig gan y Llywodraeth, y bydd y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn craffu ac yn penderfynu arno.
Nawr, Llywydd, perswadiwyd fi gan ddadleuon a wnaed yng Nghyfnod 2 i wneud ymrwymiad i gyhoeddi cyfraddau a bandiau arfaethedig Llywodraeth Cymru erbyn 1 Hydref 2017. Yn yr amgylchiadau yr ydym ynddynt—ac rwy’n derbyn yn llwyr y pwyntiau y mae Simon Thomas wedi’u gwneud ynghylch yr angen i ddyfeisio system wahanol ar gyfer gwahanol amgylchiadau yn y dyfodol, ond, yn yr amgylchiadau yr ydym ynddynt y flwyddyn hon, rwy’n ailadrodd yr ymrwymiad y prynhawn yma y bydd y Llywodraeth yn cyflwyno ac yn cyhoeddi ein cyfraddau a’n bandiau arfaethedig erbyn 1 Hydref 2017. Yna gellir craffu ar y cynigion hyn mewn modd gaiff ei lywio gan yr holl wybodaeth arall a fydd yn rhan o'r broses o wneud y gyllideb. Mae amseru o'r fath hefyd yn caniatáu i unrhyw newidiadau sydd eu hangen o ganlyniad i gyllideb hydref y Canghellor gael eu hadlewyrchu yn y rheoliadau a ddaw gerbron y Cynulliad hwn i'w hystyried gan y Cynulliad hwn a phenderfyniad y Cynulliad hwn. Mae hyn, rwy’n credu, yn darparu sicrwydd sy'n real ac yn ddibynadwy i randdeiliaid, ac yn sicrhau goruchwyliaeth gyfreithlon a chyfrifoldeb gwneud penderfyniadau'r Cynulliad Cenedlaethol hwn. Felly, gofynnaf i'r Aelodau wrthod gwelliannau 30 i 42 yn enw Mark Reckless.
Mae gwelliant 33, a gyflwynwyd gan Nick Ramsay, yn cael yr effaith o drosglwyddo rheolaeth lawn dros y cyfraddau a bandiau i Lywodraeth y DU tan fis Ebrill 2019, heb unrhyw gyfle i Weinidogion Cymru gynnig unrhyw newidiadau neu i'r Cynulliad eu cymeradwyo yn ystod y cyfnod hwnnw.
Nawr, Llywydd, mae sicrhau pwerau cyllidol i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn wedi bod yn broses hirfaith, yn ymestyn yn ôl yn awr drwy gomisiwn, proses Dydd Gŵyl Dewi, Deddf Seneddol, Deddf y Pedwerydd Cynulliad i sefydlu Awdurdod Refeniw Cymru, negodi fframwaith cyllidol yn yr hydref, a'r Bil gerbron yr Aelodau'r prynhawn yma. Nid yw’n ymddangos i mi bod rhoi’r penderfyniad cyntaf y dylem ei gymryd mewn 800 mlynedd ar gyfraddau a bandiau trethi Cymru yn ôl i'r corff y mae’r cyfrifoldebau hynny newydd gael eu datganoli ohono yn ffordd o weithredu a fyddai'n cymeradwyo ei hun i lawer o Aelodau yma'r prynhawn yma. Ac mae'n rhaid i mi ofyn i Aelodau—
A ydych yn ildio i'r ymyriad?
[Yn parhau. ] —bleidleisio yn erbyn gwelliant 33.
Mae'n ddrwg gen i. Wrth gwrs, ie.
Diolch am gymryd fy ymyriad. Rwy'n meddwl bod Ysgrifennydd y Cabinet yn bod ychydig yn ddireidus, efallai gyda rhywfaint o gydgynllwynio Plaid Cymru nad oedd Aelod y prif welliant na fi yn ymwybodol ohono yn gynharach. Ond, na, yn sicr nid dyna’r bwriad. Fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud ei hun, y bwriad yw i'r trethi hyn beidio â dod i rym tan Ebrill 2019. Felly, nid yw ein cais bod y cyfraddau treth ar gael cyn hynny ac y dylai fod sicrwydd yn ymwneud â dosbarthu pwerau yn ôl i'r corff o ble y daethant, mae'n ymwneud â sicrwydd. Ond rwy’n deall o ble’r ydych chi'n dod gyda chyfaddawd o ddyddiad, Ysgrifennydd y Cabinet, a derbyniaf hynny. A wnewch chi, o leiaf, yn y dyfodol, ystyried Bil cyllid fel y gallwn drafod y materion ariannol hyn yn y Siambr hon yn llawer mwy effeithiol nag ydym yn ei wneud ar hyn o bryd?
Wel, Cadeirydd, clywais Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn y Siambr yr wythnos diwethaf yn dweud ei fod yn gobeithio y byddai'r Pwyllgor Cyllid yn gwneud rhywfaint o waith ar y syniad o Fil cyllid, gan gymryd tystiolaeth o fannau eraill, gweld sut y gellir ei addasu i’r gyfres o drethi datganoledig sydd gennym ar gael i ni yng Nghymru, ac edrychaf ymlaen yn fawr iawn at gydweithio adeiladol gyda'r Pwyllgor Cyllid yn y gwaith pwysig hwnnw.
Galwaf ar Mark Reckless i ymateb i’r ddadl—Mark Reckless.
Diolch, Llywydd. Mae Nick Ramsay yn honni, wrth gyfeirio at feirniadu ar ei welliannau, at gydgynllwynio rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth. Dydw i ddim yn hollol siŵr faint o ryngweithio sy’n mynd ymlaen ac a yw'n cael ei alw yn briodol yn gydgynllwynio, ond rwy'n credu ei fod yn rhoi trafferth i eraill yn y Cynulliad hwn sydd yn amlwg iawn ar yr wrthblaid ynghylch p’un a ydym yn craffu ar ryw raddau o gydgynllwynio rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth, neu a ydym ni'n syml, yn edrych ar y Llywodraeth. Rwy’n siomedig gyda datganiad y Blaid na fyddant yn cefnogi'r gwelliant hwn. Rwy’n tybio ei bod fwyaf tebygol bod hynny’n golygu y byddant yn ymatal. Efallai mai dyna ran o'u cytundeb gyda Llafur eu bod yn ymatal ar y mesurau cyllid, ac eithrio pan oedd gennym yr ail gyllideb atodol, am ryw reswm, ond yna gadawsant i hwnnw fynd drwyddo beth bynnag.
Ond nid wyf yn credu ei bod yn deg i gymryd golwg ddeuol iawn fel hyn, ac nid wyf eisiau bod yn rhy gryf yn yr hyn yr wyf yn ei ddweud am y ddeddfwrfa yn erbyn y Weithrediaeth. Rwy'n meddwl bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gorliwio braidd yr hyn yr oeddwn yn ei ddweud fel yr oedd yn ei ailadrodd. Os yw’r dreth hon yn dod i mewn ac, rhywbeth fel Ebrill y flwyddyn nesaf, rydym yn gosod y cyfraddau am y tro cyntaf, y cwbl y mae gwelliant Nick Ramsay yn ei ddweud yw y dylem, am y flwyddyn gyntaf, ei gadw yn unol â chyfraddau’r DU. Ac, fel yr wyf wedi deall oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet drwy’r pwyllgor, mae wedi bod yn dweud yn union yr un peth—pa mor bwysig yw hi i gael hyn mewn trefn ac i ganiatáu i'r dreth setlo i lawr heb orfod newid o dreth dir y dreth stamp am y cyfnod cynnar tra bod y dreth yn ymsefydlu, ac mae ef ei hun, cyn belled ag y gallaf ddirnad, yn dweud bod yn rhaid i ni beidio rhoi'r cyfraddau treth hyn ar wyneb y Bil, oherwydd, ymhlyg, pe bai Llywodraeth y DU yn newid treth dir y dreth stamp, yna byddai'n rhaid i ni newid ein hun ni, felly byddem yn rhoi sicrwydd ffug i bobl drwy eu rhoi ar wyneb y Bil pe baem yn ddiweddarach yn mynd i’w newid os byddant yn newid ar lefel y DU. Ond mae'n fater syml o egwyddor. Dylem ni, fel y deddfwyr, dylem ni fel y bobl etholedig, yn y pen draw benderfynu beth yw cyfradd y dreth. Rhowch ef ar wyneb y Bil, byddwch yn driw i’ch egwyddorion. Os yw hon yn gam mor fawr tuag at fwy o hunanlywodraeth, boed yn gorffen mewn annibyniaeth neu fel arall, fel y byddai rhai Aelodau yn dymuno ac na fyddai pobl eraill, nid dyma’r ffordd iawn ar gyfer proses allweddol wrth adeiladu gwladwriaeth i’r penderfyniad hwnnw gael ei ddirprwyo i Weinidogion gan y ddeddfwrfa pan mae mor bwysig â rhoi’r cyfraddau treth cychwynnol hynny y bydd yn rhaid i drethdalwyr eu talu. Felly, am y rheswm hwnnw, byddaf yn awyddus i gynnig gwelliant 38.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 38? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad. ] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 17, naw yn ymatal, 29 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 38 wedi ei wrthod.
Gwelliant 39, Mark Reckless.
Gan ei fod yn ddilynol at y gwelliant sydd newydd gael ei drechu, ni fyddaf yn cynnig 39.
Nid yw gwelliant 39 yn cael ei gynnig.
Gwelliant 33, Nick Ramsay.
Cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 33? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad. ] Symudwn i bleidlais electronig. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid 17, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 33 wedi ei wrthod.
Mark Reckless, gwelliant 40.
Yn yr un modd, Llywydd, nid yw 40 yr holl ffordd hyd at 42 yn welliannau yr wyf am eu cynnig, o ystyried y penderfyniadau allweddol a’r egwyddorion sy'n cael eu cymryd.
Nid yw pedwar deg yn cael ei gynnig.