<p>Grŵp 2: Cyfraddau Treth a Bandiau Treth (Gwelliannau 38, 39, 33, 40, 41, 42)</p>

Part of 11. 9. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) – Senedd Cymru am 4:31 pm ar 28 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 4:31, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch am gymryd fy ymyriad. Rwy'n meddwl bod Ysgrifennydd y Cabinet yn bod ychydig yn ddireidus, efallai gyda rhywfaint o gydgynllwynio Plaid Cymru nad oedd Aelod y prif welliant na fi yn ymwybodol ohono yn gynharach. Ond, na, yn sicr nid dyna’r bwriad. Fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud ei hun, y bwriad yw i'r trethi hyn beidio â dod i rym tan Ebrill 2019. Felly, nid yw ein cais bod y cyfraddau treth ar gael cyn hynny ac y dylai fod sicrwydd yn ymwneud â dosbarthu pwerau yn ôl i'r corff o ble y daethant, mae'n ymwneud â sicrwydd. Ond rwy’n deall o ble’r ydych chi'n dod gyda chyfaddawd o ddyddiad, Ysgrifennydd y Cabinet, a derbyniaf hynny. A wnewch chi, o leiaf, yn y dyfodol, ystyried Bil cyllid fel y gallwn drafod y materion ariannol hyn yn y Siambr hon yn llawer mwy effeithiol nag ydym yn ei wneud ar hyn o bryd?