<p>Grŵp 2: Cyfraddau Treth a Bandiau Treth (Gwelliannau 38, 39, 33, 40, 41, 42)</p>

Part of 11. 9. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) – Senedd Cymru am 4:32 pm ar 28 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Reckless Mark Reckless UKIP 4:32, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd.  Mae Nick Ramsay yn honni, wrth gyfeirio at feirniadu ar ei welliannau, at gydgynllwynio rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth. Dydw i ddim yn hollol siŵr faint o ryngweithio sy’n mynd ymlaen ac a yw'n cael ei alw yn briodol yn gydgynllwynio, ond rwy'n credu ei fod yn rhoi trafferth i eraill yn y Cynulliad hwn sydd yn amlwg iawn ar yr wrthblaid ynghylch p’un a ydym yn craffu ar ryw raddau o gydgynllwynio rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth, neu a ydym ni'n syml, yn edrych ar y Llywodraeth.  Rwy’n siomedig gyda datganiad y Blaid na fyddant yn cefnogi'r gwelliant hwn. Rwy’n tybio ei bod fwyaf tebygol bod hynny’n golygu y byddant yn ymatal.  Efallai mai dyna ran o'u cytundeb gyda Llafur eu bod yn ymatal ar y mesurau cyllid, ac eithrio pan oedd gennym yr ail gyllideb atodol, am ryw reswm, ond yna gadawsant i hwnnw fynd drwyddo beth bynnag.

Ond nid wyf yn credu ei bod yn deg i gymryd golwg ddeuol iawn fel hyn, ac nid wyf eisiau bod yn rhy gryf yn yr hyn yr wyf yn ei ddweud am y ddeddfwrfa yn erbyn y Weithrediaeth. Rwy'n meddwl bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gorliwio braidd yr hyn yr oeddwn yn ei ddweud fel yr oedd yn ei ailadrodd. Os yw’r dreth hon yn dod i mewn ac, rhywbeth fel Ebrill y flwyddyn nesaf, rydym yn gosod y cyfraddau am y tro cyntaf, y cwbl y mae gwelliant Nick Ramsay yn ei ddweud yw y dylem, am y flwyddyn gyntaf, ei gadw yn unol â chyfraddau’r DU. Ac, fel yr wyf wedi deall oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet drwy’r pwyllgor, mae wedi bod yn dweud yn union yr un peth—pa mor bwysig yw hi i gael hyn mewn trefn ac i ganiatáu i'r dreth setlo i lawr heb orfod newid o dreth dir y dreth stamp am y cyfnod cynnar tra bod y dreth yn ymsefydlu, ac mae ef ei hun, cyn belled ag y gallaf ddirnad, yn dweud bod yn rhaid i ni beidio rhoi'r cyfraddau treth hyn ar wyneb y Bil, oherwydd, ymhlyg, pe bai Llywodraeth y DU yn newid treth dir y dreth stamp, yna byddai'n rhaid i ni newid ein hun ni, felly byddem yn rhoi sicrwydd ffug i bobl drwy eu rhoi ar wyneb y Bil pe baem yn ddiweddarach yn mynd i’w newid os byddant yn newid ar lefel y DU. Ond mae'n fater syml o egwyddor. Dylem ni, fel y deddfwyr, dylem ni fel y bobl etholedig, yn y pen draw benderfynu beth yw cyfradd y dreth. Rhowch ef ar wyneb y Bil, byddwch yn driw i’ch egwyddorion. Os yw hon yn gam mor fawr tuag at fwy o hunanlywodraeth, boed yn gorffen mewn annibyniaeth neu fel arall, fel y byddai rhai Aelodau yn dymuno ac na fyddai pobl eraill, nid dyma’r ffordd iawn ar gyfer proses allweddol wrth adeiladu gwladwriaeth i’r penderfyniad hwnnw gael ei ddirprwyo i Weinidogion gan y ddeddfwrfa pan mae mor bwysig â rhoi’r cyfraddau treth cychwynnol hynny y bydd yn rhaid i drethdalwyr eu talu. Felly, am y rheswm hwnnw, byddaf yn awyddus i gynnig gwelliant 38.