<p>Grŵp 3: Cyfraddau Treth a Bandiau Treth — Sylwadau gan Awdurdodau Lleol (Gwelliant 30)</p>

Part of 11. 9. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) – Senedd Cymru am 4:36 pm ar 28 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 4:36, 28 Mawrth 2017

Diolch, Llywydd. Mae’r gwelliant yn cyflwyno is-adran newydd i adran 24 sy’n ymwneud â bandiau a chyfraddau treth. Effaith y gwelliant fyddai galluogi awdurdodau lleol i gyflwyno sylwadau a chynigion arloesol ynghylch bandiau a chyfraddau treth trafodiadau tir i’w hystyried gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Bil yn cyflwyno cyfle euraidd i deilwra gweithredu’r dreth yn unol ag amcanion polisi amrywiol y Llywodraeth ond hefyd yn ôl anghenion penodol gwahanol gymunedau Cymru.

Mae hwn yn gyfle mawr y bydd y Llywodraeth ac awdurdodau lleol yn gallu manteisio arno. Bwriad ein gwelliant, felly, yw sicrhau bod awdurdodau lleol yn medru archwilio posibiliadau’r Bil hwn ac i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru yn y gobaith o weithredu ar y fath bosibiliadau. Er enghraifft, mae’n ddigon posib y gall awdurdod lleol weld yr angen dros amrywio cyfradd uchaf y dreth ar eiddo preswyl ychwanegol o fewn ardal benodedig sydd o dan ei reolaeth. Mae’n ddigon rhesymol, felly, bod awdurdod lleol yn medru gwneud sylw i Lywodraeth Cymru ynghylch y fath amrywiad i’r dreth ac mae’r gwelliant yma yn diogelu bod modd iddynt wneud hyn yn y dyfodol ac yn ffurfiol. Ond, wrth gwrs, rwyf yn gobeithio y bydd yna werthfawrogiad ar draws y Siambr mai’r bwriad yma yw i fod yn greadigol ac i weld a oes yna ffyrdd o ddefnyddio ein pwerau ‘fiscal’—newydd, bychain ar hyn o bryd—er mwyn gweithredu ar amcanion polisïau mwy eang. Bydd diddordeb mawr gennym ar y meinciau yma i wrando ar ymateb Ysgrifennydd y Cabinet.