Part of 11. 9. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) – Senedd Cymru am 4:38 pm ar 28 Mawrth 2017.
Rwyf o blaid creadigrwydd, ond mae gwahaniaeth rhwng creadigrwydd ac ansefydlogi. Rwy’n meddwl, er bod datganoli trethi yn caniatáu i'r Cynulliad hwn a Llywodraeth Cymru wneud pethau'n wahanol yma, a thros amser, byddem yn disgwyl i hynny ddigwydd, os ydych yn dilyn y wireb yn y lle cyntaf y dylai’r system a'r drefn yma fod yn ddrych mor agos ag sy'n bosibl o’r un ar draws y ffin er mwyn sicrhau sefydlogrwydd a phontio llyfn, yna rwy'n credu y byddai'n annoeth i wneud y math hwn o newid ar hyn o bryd. Steffan Lewis, rydych yn dymuno rhoi gallu i wneud sylwadau i awdurdodau lleol. Wrth gwrs, gall awdurdodau lleol gyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru. Rwy'n credu eu bod yn ôl pob tebyg yn gwneud llawer o sylwadau i Lywodraeth Cymru nad yw yn aml yn awyddus i’w clywed. Felly, mae’r gallu hwnnw ganddynt ar hyn o bryd. Dydw i ddim yn hollol glir beth yw'r rheswm llawn tu ôl i hyn. Rhaid i mi ddweud fy mod braidd yn anesmwyth pan fyddwch yn dweud y gall fod amodau lleol mewn unrhyw ardal awdurdod lleol a fyddai'n gweld yr angen i amrywio yn benodol cyfraddau uchaf y tâl hwn. Nid oeddech yn hollol glir ynghylch hynny yn eich cyfraniad. Fel y mae pethau ar hyn o bryd, yn anffodus nid ydym yn gallu cefnogi hyn, ond edrychaf ymlaen at glywed yr hyn sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i'w ddweud mewn ymateb.