Part of 11. 9. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) – Senedd Cymru am 4:51 pm ar 28 Mawrth 2017.
Diolch, Llywydd. Dyma'r cyntaf mewn cyfres o grwpiau o welliannau Llywodraeth technegol a fydd yn dod gerbron y Cynulliad y prynhawn yma.
Mae gan bob un o’r rhain bwyslais ychydig yn wahanol, ac felly maent wedi cael eu gwahanu er hwylustod trafod, ond yr hyn sydd ganddynt yn gyffredin yw eu bod i gyd yn fân a thechnegol. Ar y cyfan, maent yn welliannau angenrheidiol i'r Bil er mwyn gwella eglurder y drafftio. Er enghraifft, mae’r holl welliannau yn y grŵp hwn yn mynd i’r afael â chroesgyfeiriadau anghywir yn y Bil. Mae'r rhan fwyaf o'r rhain wedi codi o ganlyniad i'r newidiadau i'r Bil a wnaed yng Nghyfnod 2, ac rydym yn awr yn cael y cyfle i sicrhau bod y croesgyfeiriadau hyn yn gywir. Gofynnaf i Aelodau eu cefnogi.