<p>Grŵp 8: Trafodiadau Eiddo Preswyl Cyfraddau Uwch — Eiddo a Etifeddir (Gwelliant 17)</p>

Part of 11. 9. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) – Senedd Cymru am 4:57 pm ar 28 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 4:57, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Llywydd, fel yr ydych wedi dweud, mae'r grŵp hwn yn ymdrin â mater mewn perthynas ag eiddo a etifeddwyd. Mae gwelliant 17 yn darparu bod priod neu bartneriaid sifil nad ydynt bellach yn byw gyda'i gilydd ddim i gael eu buddiannau perthnasol wedi’u cyfuno er mwyn sefydlu a yw'r budd a ddelir yn fwy na 50 y cant. Mae hyn yn caniatáu i gyplau sydd wedi gwahanu gael eu hystyried yn unigol yn hytrach na chael eu hasesu fel un uned economaidd gyda'u priod neu bartner sifil blaenorol.  Mae hyn yn gyson â darpariaethau eraill yn Atodlen 5 sy'n ymwneud â'r rhai sydd wedi gwahanu yn awr.

Mae'r gwelliant hwn yn mewnosod is-baragraff i baragraff 33 Atodlen 5. Mae'n diwygio'r rheolau sy'n ymwneud ag eiddo sy'n cael ei etifeddu. Y rheol bresennol yw, pan fo person yn etifeddu buddiant nad yw'n fwy na 50 y cant o'r eiddo, yna ni fydd y buddiant hwnnw yn cael ei ystyried wrth sefydlu a yw'r cyfraddau uwch yn berthnasol i drafodiad am 36 mis ar ôl y dyddiad y cafodd ei etifeddu. Os yw priod neu bartneriaid sifil ill dau wedi etifeddu buddiannau yn yr eiddo, yna byddai angen i’r buddiannau hynny gael eu cydgasglu i ddibenion sefydlu a oedd buddiant dros 50 y cant yn eiddo iddynt.

Llywydd, mae hwn yn welliant arall sydd yn ymateb i amgylchiadau cymharol brin, ond a gynlluniwyd i wella tegwch y system, a gofynnaf i Aelodau i'w gefnogi am y rheswm hwnnw.