Part of 11. 9. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 28 Mawrth 2017.
Grŵp 9, felly, yw’r grŵp nesaf. Mae’r grŵp yma’n cynnwys gwelliannau technegol, sy’n ymwneud â chyfrifo cydnabyddiaeth drethadwy. Gwelliant 1 yw’r prif welliant yn y grŵp yma ac rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant yma a’r gwelliannau eraill. Mark Drakeford.