11. 9. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 28 Mawrth 2017.
Grŵp 9, felly, yw’r grŵp nesaf. Mae’r grŵp yma’n cynnwys gwelliannau technegol, sy’n ymwneud â chyfrifo cydnabyddiaeth drethadwy. Gwelliant 1 yw’r prif welliant yn y grŵp yma ac rydw i’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant yma a’r gwelliannau eraill. Mark Drakeford.
Diolch, Lywydd. Mae gwelliannau 1 a 2 yn fân o ran natur, ond yn cael eu rhoi o flaen y Cynulliad er mwyn gwella eglurder y drafftio. Mae gwelliant 1 yn dileu paragraff (b) o adran 29, sy'n cynnwys cyfeiriad diangen at wahanol ostyngiadau a ddarperir gan Atodlen 14. Mae hyn yn sicrhau bod adran 29 yn rhoi rhestr gyson o'r darpariaethau rhyddhad sy'n addasu sut y mae'r dreth a godir yn cael ei chyfrifo. Mae gwelliant 2 yn ganlyniad i welliant 1. Gofynnaf i Aelodau gefnogi gwelliannau’r Llywodraeth sy'n gwella drafftio'r Bil.
Nid oes dim siaradwyr. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 1.
Ysgrifennydd y Cabinet—gwelliant 2.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 2.
Ysgrifennydd y Cabinet—gwelliant 24.
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 24? A oes unrhyw wrthwynebiad? Derbyniwyd gwelliant 24.