Part of 11. 9. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 28 Mawrth 2017.
Diolch, Llywydd. Mae gwelliant 3—yr unig welliant yn y grŵp hwn—yn mewnosod paragraffau newydd i adran 52, sy'n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i ddiwygio gan reoliadau y cyfnod y mae'n rhaid dychwelyd ffurflenni. Mae adran 52 eisoes yn cynnwys pŵer i ddiwygio cyfnodau dychwelyd ffurflenni eraill, er enghraifft, mewn perthynas â ffurflenni pellach. Mae'r gwelliant hwn yn ychwanegu at y darpariaethau yn Atodlen 6 yn ymwneud â chyfnodau dychwelyd ffurflenni ar gyfer prydlesi. Nod y gwelliant yw cywiro hepgoriad i sicrhau bod yr holl gyfnodau dychwelyd perthnasol yn cael eu dal, gan gynnwys cyfnodau dychwelyd ar gyfer prydlesi. Bydd hyn yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddiwygio, os oes angen yn y dyfodol, y cyfnod pryd mae’n rhaid i’r holl ffurflenni gael eu dychwelyd, gan sicrhau cysondeb o ran triniaeth ar gyfer yr holl ffurflenni. O gofio y gallai hyn newid faint y byddai yn rhaid i unigolyn ei dalu yn y dyfodol, bydd rheoliadau a wneir dan yr adran hon yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r gwelliant hwn.