<p>Grŵp 13: Adolygiad Annibynnol o’r Dreth Trafodiadau Tir (Gwelliant 31)</p>

Part of 11. 9. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) – Senedd Cymru am 5:07 pm ar 28 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 5:07, 28 Mawrth 2017

Diolch, Llywydd. Mae’r gwelliant yn cyflwyno adran newydd i’r Bil, sy’n gosod disgwyliad ar Lywodraeth Cymru i wneud trefniadau ar gyfer adolygiad annibynnol o’r dreth a bod yr adolygiad hwn wedi’i gwblhau o fewn chwe blynedd o’r dyddiad y daw’r dreth i rym. Mae’r gwelliant hefyd yn gosod disgwyliad y bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi adroddiad mewn ymateb i gasgliadau’r adolygiad annibynnol.

Mae yna gynsail i gynnal adolygiad ar weithrediad Deddf Cymru ac, yn wir, erbyn hyn, mae hi bron yn arfer i gynnal adolygiad yn weddol fuan ar ôl i Ddeddf ddod i rym yn llawn. Yn yr achos yma, lle mae’r Ddeddf yn cyflwyno pwerau trethiant i Lywodraeth Cymru, mae’n hollbwysig bod adolygiad annibynnol yn cael ei gynnal er mwyn gwerthuso ei gweithrediad ac er mwyn sicrhau bod y Ddeddf yn cyflawni ei phwrpas yn effeithiol. Mae’r gwelliant yn datblygu, felly, ar welliant a gyflwynwyd gennyf yn ystod Cyfnod 2 ac yn gosod gorfodaeth ar Lywodraeth i ymateb i adroddiad yr adolygiad annibynnol. O gydnabod bod angen edrych ar sut mae’r dreth yn gweithredu dros fwy nag un flwyddyn ar gyfer unrhyw werthusiad pwrpasol, teimlaf fod cyfnod o chwe blynedd yn caniatáu digon o amser i’r dreth sefydlu’n iawn ac yn rhoi digon o amser ar gyfer gwerthusiad trylwyr ohoni.