Part of 11. 9. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) – Senedd Cymru am 5:08 pm ar 28 Mawrth 2017.
Diolch, Llywydd. Diolch i Steffan Lewis am ei welliant. O leiaf yn y cyfieithiad Saesneg o'r hyn yr oedd yn ei ddweud, y cyfeiriad oedd at ddisgwyliad ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu'r adroddiad, disgwyliad arnynt i gyhoeddi'r adroddiad, ond yna gofyniad i ymateb, ond, o leiaf yn fersiwn Saesneg y gwelliant, rwy’n deall bod pob un ohonynt yn orfodol. Mae hynny ychydig yn fwy na disgwyliad.
Nid wyf yn cefnogi'r gwelliant hwn. Fe wnes i gefnogi nifer o welliannau Steffan yn ystod y cam pwyllgor, gan gynnwys un neu ddau nad oedd ef ei hun yn eu cefnogi ar y pryd. Ond rwy'n credu mai mater i'r Pwyllgor Cyllid yw hyn. Nid yw dweud, ‘A dweud y gwir, nid yw hwn yn fater i’r Cynulliad, bydd comisiwn annibynnol a dylai’r Gweinidogion gael pwysigion y genedl Gymreig i ddweud wrthym beth i'w wneud,’ y dull cywir yn fy marn i. Rydym yn mynd i gael treth trafodiad tir, rydym yn mynd i gael trethi busnes, rydym yn mynd i gael y dreth gyngor; rydym yn mynd i gael y gyfres hon o drethi, ac rwy'n falch am yr hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i ddweud wrth y pwyllgor a'r hyn y mae ein Cadeirydd ar y Pwyllgor Cyllid wedi bod yn ei wneud. Mae'n ymddangos bod cydweithio da â'r Llywodraeth wrth edrych ar beth yw’r mecanwaith priodol ar gyfer adolygu trethi yn y dyfodol, ac ar gyfer gweld sut maent yn gweithio ac o bosibl yn rhyngweithio â'i gilydd, ac rwy’n credu ei fod yn iawn i’r Pwyllgor Cyllid arwain ac adrodd fel y bo'n briodol i'r Cynulliad hwn, yn hytrach na dirprwyo ein tasg i'r pwyllgor hwn fel yr awgrymir yn y gwelliant hwn.