Part of the debate – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 28 Mawrth 2017.
Diolch am y cwestiwn. Rydych yn iawn i nodi bod amrywiaeth o welliannau eisoes yn digwydd i wasanaethau hyd yn oed yn y byrddau iechyd hynny nad ydynt yn byw o fewn eu modd yn gyffredinol. Ceir enghreifftiau da ledled Cymru. Er enghraifft, mae Abertawe Bro Morgannwg wedi treialu cardioleg gymunedol, gan symud gwasanaethau o ysbytai ac i'r gymuned. Mae'n brofiad mwy boddhaol i’r cleifion ac, yn ogystal â hyn, mae'n golygu bod pobl y mae angen iddyn nhw fod mewn canolfan gofal eilaidd neu drydyddol yn cael eu gweld yn fwy cyflym. Mae’n wir yn aml y gall gwella gwasanaethau arwain at arbedion ariannol. Nid yw bob amser yn wir fod angen i chi wario mwy o arian ar wella eich gwasanaeth. Yr her yw bod hynny’n aml yn dod gyda thrafodaeth anodd—trafodaeth â'r cyhoedd ynglŷn â pham a sut y mae’r gwasanaethau i’w newid, ond hefyd gyda'n staff. Nid yw pob aelod o staff yn eiriolwr brwd dros newid y ffordd y mae gwasanaeth yn gweithio. Ond rydym yn gweld nifer o wahanol enghreifftiau lle mae gwelliannau’n cael eu gwneud i wasanaethau, ac mae gofal strôc yn enghraifft dda. Cefais nid yn unig drafodaeth â Chaerdydd, ond hefyd â bwrdd iechyd Aneurin Bevan y gwnes i ymweld ag ef yn ddiweddar gyda Jayne Bryant—gwelliant gwirioneddol yn eu gwasanaethau ac, yn wir, rhywbeth y gallai gweddill Cymru anelu ato. Ond, wrth gwrs, gwnaed gwelliant mewn meysydd eraill hefyd. Er enghraifft, roedd Abertawe Bro Morgannwg yn cydnabod ddoe bod ganddyn nhw £4 miliwn o wastraff meddyginiaethau o fewn ardal eu bwrdd iechyd. Felly, maen nhw’n symiau sylweddol o arian y gellid ac y dylid eu harbed ac a fydd yn darparu gwasanaeth gwell i’n cleifion. Ond ni fydd hynny’n osgoi’r her ei bod yn ofynnol i ni edrych ar ddiwygio’r ffordd y mae ein gwasanaeth yn cael ei ddarparu er mwyn gwella gofal cleifion—yr ansawdd a’r profiad. Ac rwyf yn credu yn y bôn y bydd yn golygu ein bod hefyd yn byw o fewn ein modd ariannol.