– Senedd Cymru ar 28 Mawrth 2017.
Rwyf wedi derbyn dau gwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66. Rwy’n galw ar Simon Thomas i ofyn y cwestiwn brys cyntaf.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y gorwariant o £150 miliwn gan fyrddau iechyd lleol eleni? EAQ(5)0153(HWS)[W]
Diolch am y cwestiwn. Mae'r sefyllfa yn annerbyniol yn y pedwar bwrdd iechyd hyn. Rydym wedi ei gwneud yn glir ein bod yn disgwyl iddyn nhw gymryd camau i wella eu sefyllfa ariannol yn sylweddol.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am y datganiad hwn, nad oedd mewn gwirionedd yn dweud beth yr oedd yn mynd i'w wneud ynglŷn â’r mater. Fodd bynnag, rwyf yn gobeithio y bydd yn dweud wrthym yn awr. Yn gyntaf oll, a all roi goleuni ar y sefyllfa? Gan fy mod yn credu y gallai rhywfaint o ddryswch fod yn aros, yn dilyn cwestiynau arweinydd y blaid Geidwadol yn gynharach, oherwydd er nad yw'r byrddau iechyd wedi cael eu hachub yn ariannol, achubwyd croen ei adran ef hyd at swm tebyg o arian. Mae'r gyllideb atodol yr ydym wedi ei phasio rai wythnosau yn ôl yn rhoi’r arian hwn i’w adran ef mewn gwirionedd, nid i’r byrddau iechyd eu hunain, ac felly bu achub croen, i bob pwrpas. Ac felly, os nad oes unrhyw ganlyniadau wedi bod ar gyfer y byrddau iechyd, mae'n rhaid i ni ofyn i’n hunain, 'Sut mae cael gwell cynllunio ariannol i’r dyfodol?' Soniodd y Prif Weinidog am Ddeddf Cyllid y GIG, a basiwyd dair blynedd yn ôl gan y Cynulliad hwn. Pan gafodd y Ddeddf ei phasio, dywedodd ac addawodd y Gweinidog blaenorol y byddem yn gweld gwell cynllunio ariannol, ac aeth yn ei flaen i addo y dylai hynny arwain at wneud penderfyniadau gwell a’r datrysiadau gorau posibl gan fyrddau iechyd lleol. Nid wyf yn credu y gallwn ni ddweud ein bod wedi gweld gwell cynllunio ariannol neu’r datrysiadau gorau posibl gan fyrddau iechyd ers pasio'r Ddeddf honno. A all gadarnhau bod dyletswydd ariannol yn dal i fod ar fyrddau iechyd i beidio â mynd y tu hwnt i'r cyfanswm ym mhob blwyddyn ariannol, hyd yn oed wrth ystyried model tair blynedd o gynllunio, a pha ganlyniadau a all fod ar gyfer byrddau iechyd pe na bydden nhw yn diwallu anghenion cynllunio ariannol priodol o dan Ddeddf cyllid y GIG? Ac onid yw hi'n bryd ystyried o leiaf beidio â thalu lwfansau a thaliadau i aelodau o'r byrddau iechyd os na allan nhw ddod â’u hunain i drefn?
Diolch i'r Aelod am y sylwadau a'r cwestiynau oedd yn dilyn. Nid wyf yn credu bod edrych ar y pedwar sefydliad penodol, ac yna cheisio dweud bod y system gyfan yn cael ei barnu ar sail y pedwar hyn yn unig, yn agwedd sydd yn ystyried y darlun cyflawn. A dweud y gwir, pan fyddwch yn edrych ar y chwech o bob 10 sefydliad sydd wedi mantoli’r gyllideb, mae hynny yn rhannol o ganlyniad i'r drefn newydd sydd gennym. Yr hyn yr wyf wedi bod yn glir iawn amdano yw nad ydym yn mynd i geisio cuddio’r ffaith nad yw’r pedwar bwrdd iechyd yn mynd i fyw o fewn eu modd eleni, a bydd yn rhaid cynnal ymarfer mewn disgyblaeth ariannol ac eglurder ynghylch hynny. Ac mae hynny’n cyffwrdd â’ch pwynt am atebolrwydd. Nid wyf yn credu bod yr ergyd ddiwerth braidd am wrthod talu lwfansau i aelodau bwrdd yn ffordd ddefnyddiol iawn o ymgymryd â’r her wirioneddol a difrifol sydd gennym. Rwyf yn disgwyl i'r gwasanaeth a'r system gymryd yr heriau ariannol sy'n ein hwynebu o ddifrif. Mae pob gwlad unigol o fewn y Deyrnas Unedig yn wynebu her wirioneddol a difrifol ynglŷn ag ariannu'r gwasanaeth iechyd. Rydym yn gwybod am ganlyniadau cyni parhaol a beth mae hynny'n ei wneud i’n gwasanaethau cyhoeddus. Rydym yn gwybod bod rhoi ychwaneg i’r GIG o arian y gyllideb y mae’r Cynulliad hwn wedi ei phasio yn dod ar gost wirioneddol i rannau eraill o gyllid cyhoeddus. Dyna pam yr wyf wedi bod yn glir iawn dros gyfnod estynedig o amser fod gan y gwasanaeth iechyd gyfrifoldeb gwirioneddol i fyw o fewn ei modd. Dyna pam yr wyf wedi bod yn glir iawn ein bod yn disgwyl gwelliant sylweddol mewn cynllunio a rheoli ariannol nad ydyw’n peryglu gofal cleifion.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae pobl yn siarad am hyn gyda thinc o ofn a dychryn fel petai’n syndod mawr, ond nid yw’n syndod o gwbl i mi wrth edrych ar rai o'r cynlluniau tymor canolig integredig. A wnewch chi gadarnhau pa rai o gynlluniau tymor canolig integredig y byrddau iechyd oedd yn dangos diffyg o ddechrau'r cyfnod cyllid hwn? A wnewch chi roi cadarnhad i mi ymhle y gwelwch chi’r byrddau iechyd yn gallu adolygu eu gwariant? Oherwydd er gwaethaf yr holl siarad di-ildio gan bawb, rwyf yn tybio ac yn gobeithio y bydd meddygon a nyrsys, porthorion a gweithwyr iechyd cymunedol yn cael eu talu o hyd dros yr ychydig fisoedd nesaf. Yn drydydd, Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn derbyn bod nifer o’r byrddau iechyd hyn wedi cychwyn ar raglenni arbedion uchelgeisiol yn barod? Bydd y rhain yn cymryd amser i ddechrau gweithio, mae’n amlwg . Ydych chi'n meddwl eich bod wedi rhoi digon o amser i fyrddau iechyd ar gyfer gwella hyn? Yn bedwerydd, a ydych yn croesawu'r gwelliant mewn gwasanaethau a welwyd o ganlyniad i hyn? Mae llawer o ddangosyddion perfformiad y byrddau iechyd wedi codi yn araf. Gwn fod ym mwrdd iechyd Hywel Dda y gyfradd orau yng Nghymru gyda chanser ac amseroedd darpariaeth damweiniau ac achosion brys pedair awr. Ac a fyddech yn cytuno na fyddem yn dymuno gweld dirywiad wrth gyflenwi gwasanaethau? A ydych yn derbyn y dylem gael codiad i rai o'r byrddau iechyd gwledig, fel y trafodwyd ac yr hyrwyddwyd gan nifer o sefydliadau, nid dim ond gan y byrddau iechyd eu hunain? Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ddweud wrthyf beth yw safle Cymru o ran gwariant ar ofal iechyd fel canran o gynnyrch mewnwladol crynswth? Fy nealltwriaeth i yw mai dim ond tair gwlad yn Ewrop sydd yn gwario llai na ni, ac onid honno yw'r broblem mewn gwirionedd? Nid ydym yn gwario digon ar ofal iechyd i sicrhau nad yw byrddau yn mynd i ddiffyg. Fel y dywedodd Andrew R.T. Davies yn gynharach, mae’r diffyg yng Nghymru yn ddwbl yr hyn ydyw yn y DU.
Rwy’n mynd i geisio ymdrin yn fyr â’r gyfres o gwestiynau a ofynnwyd. Yn gyntaf oll, rwyf am groesawu'r gydnabyddiaeth gan lefarydd iechyd y Ceidwadwyr o ystod y gwelliannau yn y gwasanaeth y mae'r GIG yn ei darparu i bobl Cymru. Mae'n debyg mai hwn yw’r tro cyntaf i mi glywed hynny gan lefarydd iechyd o’i phlaid hi ac mae hynny'n dderbyniol iawn, yn wir. Ni ddylai unrhyw un gael ei synnu, er hynny, gan yr heriau hyn, gan fy mod i wedi bod yn gwbl onest amdanyn nhw dros gyfnod o fisoedd. Pan wrthodais gymeradwyo'r Cynllun Tymor Canolig Integredig a gyflwynwyd gan fyrddau iechyd Abertawe Bro Morgannwg a Chaerdydd a'r Fro, roeddwn yn gwbl glir am yr ystod o faterion oedd ynddo. Ac roedd arian yn rhan o'r her hefyd, felly ni chafodd eu Cynlluniau Tymor Canolig Integredig eu cymeradwyo. Yn yr un modd, roeddech chi ac eraill yn y Siambr mewn pwyllgor iechyd ar 3 Tachwedd, pan atebais gwestiynau am y sefyllfa hon, ac am yr arian yn benodol. Eglurais ar yr adeg honno na fyddai Hywel Dda a Betsi Cadwaladr yn byw o fewn eu modd. Rwyf hefyd wedi gwneud y risg gwirioneddol yn eglur o ran Abertawe Bro Morgannwg a Chaerdydd a'r Fro. Mae’r aelodau, wrth gwrs, yn rhydd i wirio’r trawsgrifiad a'r llythyr dilynol at y pwyllgor iechyd a oedd yn gwbl glir am y broblem hon. Felly, ni ddylai hyn fod yn syndod i neb os yw wedi bod yn cymryd sylw.
Yr her yw beth yr ydym ni yn barod i’w wneud, ond mae hynny’n cyffwrdd â’r pwyntiau eraill yr ydych wedi eu gwneud. Rwyf yn dymuno bod yn hollol glir eto: bydd pobl yn cael eu talu; bydd biliau yn cael eu talu; ni fydd hyn yn arwain at gwtogi yn y gwasanaeth a ddarperir. Byddwn yn talu am hyn o'r canol, ond byddwn yn cael eglurhad pam nad yw'r byrddau iechyd hyn wedi byw o fewn eu modd. Nid wyf yn derbyn o gwbl eich pwynt nad ydym yn gwario digon o arian ar iechyd. Os mai hynny yw eich barn chi mewn gwirionedd, yna gallech ddangos mewn cyllideb amgen ym mha le y byddech yn cael yr arian hwnnw. Gadewch i ni gofio hyn: pan wnaethom ni roi’r £240 miliwn ychwanegol yn y gyllideb yr oeddem yn ei chynnig ac a gafodd ei phasio yn y lle hwn—ar gyfer y GIG—fe ddaw ar gost sylweddol i bob rhan arall o'r gwasanaeth cyhoeddus. Mae hynny'n golygu y bydd £106 miliwn o ran arian parod yn cael ei gymryd oddi wrth lywodraeth leol. Os bydd y Torïaid o ddifrif yn dymuno gweld toriadau pellach yn cael eu gwneud mewn meysydd eraill o wasanaeth, dylent osod y rheini allan. Nid gêm heb ganlyniadau yw hon. Rydym yn gwario bron 50 y cant o'n cyllideb ar y GIG.
Ac yn olaf, yr her wirioneddol wrth fantoli’r gyllideb a chael gwasanaeth gwirioneddol gynaliadwy yw gweddnewidiad gwasanaethau. Mae hynny'n golygu gwneud dewisiadau anodd a gofyn cwestiynau anodd i bob un ohonom ni—pob un ohonom ni ddinasyddion Cymru, pob un ohonom ni gynrychiolwyr etholedig—a’r drafodaeth honno â chlinigwyr am sut y gallwn wella ein gwasanaeth drwy ei newid, ac nid aros am newid i ddigwydd i ni oherwydd ein bod wedi aros yn rhy hir am ddiwygio’r gwasanaethau hynny. Dyna pam y gwnes nodi’n eglur iawn, iawn i'r gwasanaeth, yn enwedig yn yr araith i Gydffederasiwn y GIG y mis diwethaf, yr hyn yr wyf yn ei ddisgwyl ganddyn nhw a'r hyn yr wyf yn gofyn iddyn nhw ei wneud wrth gynllunio a rheoli'r gwasanaeth dros y flwyddyn nesaf pryd y bydd yn rhaid gwneud penderfyniadau.
Mae gofal iechyd doeth yn gofyn i ni wneud popeth yn wahanol fel ein bod yn cael gwared â gwastraff ac yn osgoi dyblygu ymdrechion. Rwy'n ymwybodol fod yn fy mwrdd iechyd i fy hun, Caerdydd, gamau enfawr wedi eu cymryd ganddyn nhw, er enghraifft, gydag adferiad cleifion strôc, sydd wedi eu galluogi i adael yr ysbyty ynghynt, ac mae hynny'n amlwg yn arbed arian. Ond rwyf yn holi tybed beth arall y gallai’r pedwar bwrdd iechyd hyn ei wneud o ddilyn esiampl byrddau iechyd mwy llwyddiannus, yn ariannol, er mwyn, er enghraifft, cynnig mwy o wasanaethau mewn gofal sylfaenol a chymunedol, oherwydd gellir profi bod hyn yn cael gwell canlyniadau ac yn arbed arian hefyd. Beth arall all y byrddau iechyd hyn ei wneud nad ydyn nhw’n ei wneud ar hyn o bryd?
Diolch am y cwestiwn. Rydych yn iawn i nodi bod amrywiaeth o welliannau eisoes yn digwydd i wasanaethau hyd yn oed yn y byrddau iechyd hynny nad ydynt yn byw o fewn eu modd yn gyffredinol. Ceir enghreifftiau da ledled Cymru. Er enghraifft, mae Abertawe Bro Morgannwg wedi treialu cardioleg gymunedol, gan symud gwasanaethau o ysbytai ac i'r gymuned. Mae'n brofiad mwy boddhaol i’r cleifion ac, yn ogystal â hyn, mae'n golygu bod pobl y mae angen iddyn nhw fod mewn canolfan gofal eilaidd neu drydyddol yn cael eu gweld yn fwy cyflym. Mae’n wir yn aml y gall gwella gwasanaethau arwain at arbedion ariannol. Nid yw bob amser yn wir fod angen i chi wario mwy o arian ar wella eich gwasanaeth. Yr her yw bod hynny’n aml yn dod gyda thrafodaeth anodd—trafodaeth â'r cyhoedd ynglŷn â pham a sut y mae’r gwasanaethau i’w newid, ond hefyd gyda'n staff. Nid yw pob aelod o staff yn eiriolwr brwd dros newid y ffordd y mae gwasanaeth yn gweithio. Ond rydym yn gweld nifer o wahanol enghreifftiau lle mae gwelliannau’n cael eu gwneud i wasanaethau, ac mae gofal strôc yn enghraifft dda. Cefais nid yn unig drafodaeth â Chaerdydd, ond hefyd â bwrdd iechyd Aneurin Bevan y gwnes i ymweld ag ef yn ddiweddar gyda Jayne Bryant—gwelliant gwirioneddol yn eu gwasanaethau ac, yn wir, rhywbeth y gallai gweddill Cymru anelu ato. Ond, wrth gwrs, gwnaed gwelliant mewn meysydd eraill hefyd. Er enghraifft, roedd Abertawe Bro Morgannwg yn cydnabod ddoe bod ganddyn nhw £4 miliwn o wastraff meddyginiaethau o fewn ardal eu bwrdd iechyd. Felly, maen nhw’n symiau sylweddol o arian y gellid ac y dylid eu harbed ac a fydd yn darparu gwasanaeth gwell i’n cleifion. Ond ni fydd hynny’n osgoi’r her ei bod yn ofynnol i ni edrych ar ddiwygio’r ffordd y mae ein gwasanaeth yn cael ei ddarparu er mwyn gwella gofal cleifion—yr ansawdd a’r profiad. Ac rwyf yn credu yn y bôn y bydd yn golygu ein bod hefyd yn byw o fewn ein modd ariannol.
Fel y gwyddoch, Ysgrifennydd y Cabinet, mae dau o’r byrddau iechyd lleol hynny sydd wedi eu heffeithio yn fy rhanbarth i. Cyn codi ysgyfarnogod—ac y maen nhw wedi eu codi eisoes heddiw—byddwn yn hoffi pe byddech chi, os gwelwch yn dda, yn datgan eto na fydd gwasanaethau yn dioddef, a gofynnaf i chi hefyd a fyddwch yn dwyn yn ôl gerbron y Siambr hon y rhaglen weithredu yr ydych yn bwriadu gofyn i’r byrddau iechyd hynny ei rhoi ar waith i gyflawni'r newidiadau sydd eu hangen i leihau’r gorwariant hwn. A gofynnaf i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddwch yn rhoi taw yn ddi-oed ar yr awgrym y cyfeiriwyd ato gan Angela Burns nad yw staff am dderbyn eu cyflogau o ganlyniad i hyn.
Wnes i ddim dweud hynny.
Fe wnaethoch chi.
Rwy'n hapus i gadarnhau unwaith eto, fel yr wyf wedi ei wneud ym mhob cyfweliad ac wrth ateb pob cwestiwn a ofynnwyd imi am hyn, y bydd biliau yn cael eu talu, y bydd staff yn cael eu cyflogau ac ni fyddwn yn gweld amharu ar driniaethau o ganlyniad i sefyllfa’r byrddau iechyd hyn. Byddwn yn talu’r arian hwn o’r canol, ond byddwn yn gwneud yn siŵr bod eglurder o ran faint o orwariant fu ym mhob un o'r byrddau iechyd hyn yn unigol. Ac o ran y dyfodol, wel, wrth gwrs, rydym yn mynd drwy'r rownd gynllunio ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Ac felly, bydd byrddau iechyd sydd mewn sefyllfa wahanol, ac ymddiriedolaethau, yn cael cymeradwyaeth ar gyfer eu cynlluniau tymor canolig integredig. Bydd rhagor o wahaniaethu rhwng y rhai sydd yn sefydliadau cymeradwy, a'r rhai sydd yn mynd drwy'r broses uwchgyfeirio, ac sydd naill ai mewn ymyrraeth wedi ei thargedu neu fesurau arbennig. Mae’n rhaid cael eglurder am safle pob bwrdd iechyd a safle pob ymddiriedolaeth, a byddaf yn rhoi hynny.
Nid wyf yn dweud unrhyw beth ychwanegol wrth yr Aelodau heddiw nad wyf wedi ei ddweud yn barod wrth y rhai sy’n arwain ac yn rhedeg y sefydliadau hyn. Ac rwy’n cael yr un drafodaeth yn gyhoeddus fel ag yn breifat am yr angen i sicrhau gwelliant ariannol sylweddol, ac ymdrin â'r angen am drawsnewidiad yn ein gwasanaethau hefyd. A byddaf, wrth gwrs, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau unwaith eto ar y cynnydd yn y sefyllfa gyda rheolaeth ariannol a hefyd gyda sefyllfa’r gwasanaeth. Byddaf yn gwneud hynny pan fyddaf yn dod yn ôl i adrodd ar y Cynlluniau Tymor Canolig Integredig hynny sydd wedi'u cymeradwyo, a'r rhai nad ydynt wedi’u cymeradwyo, a'r camau yr ydym yn eu cymryd i gefnogi a herio’r sefydliadau hynny nad ydynt ar hyn o bryd mewn sefyllfa lle gallaf gymeradwyo, neu y byddaf yn fodlon cymeradwyo, gynllun tymor canolig integredig.
Rwyf wedi gwrando'n ofalus iawn ar eich atebion i'r cwestiynau hyn am y problemau a wynebir gan fyrddau iechyd. Mae'n rhaid i mi ddweud ei bod braidd yn haerllug eich bod chi yn eistedd yn fanna yn beirniadu’r byrddau iechyd, yn dweud wrthyn nhw bod yn rhaid cael trefn ar bethau o ran cyllid, tra eich bod yn gyfrifol am un o'r byrddau iechyd hynny sydd yn destun mesurau arbennig. Diffyg rheolaeth ariannol oedd un o'r rhesymau pam mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod yn destun mesurau arbennig. Rydych chi wedi bod yno am bron dwy flynedd, ac yn ôl y rheolaeth ariannol mae’n ymddangos o hyd y bydd y bwrdd iechyd mewn dyled o £30 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn hon. A wnewch chi dderbyn eich cyfrifoldeb am y methiant i fantoli'r cyfrifon yn y bwrdd iechyd penodol hwn, a beth ydych chi yn ei wneud am y peth o ystyried ei fod yn destun mesurau arbennig?
Rwy'n cydnabod cysondeb Darren Millar yn y maes hwn. Nid yw byth yn derbyn nad cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw popeth sy’n mynd o chwith, neu pan fo her neu broblem.
Mae'n destun mesurau arbennig o achos rheoli cyllid.
Mae Betsi Cadwaladr, yn sefydliad—
Dyna oedd un o'r rhesymau yr aeth yn destun mesurau arbennig.
[Yn parhau.]—sydd wrthi’n gwella ystod o wahanol feysydd, ac edrychaf ymlaen at asesiad y rheoleiddiwr a ddaw’r mis nesaf ar gyfradd a lefel eu gwelliant. Ac o ran ei gyllid, mae Betsi wedi gwella eleni o’i chymharu â'r llynedd. Rwy'n disgwyl iddo wella eto’r flwyddyn nesaf hefyd. Gall yr Aelodau naill ai gymryd agwedd fel un Darren Millar a dweud bod popeth yn drychinebus ac mai ar Lywodraeth Cymru y mae’r bai am y cwbl, neu gallant gymryd agwedd sydd ychydig yn fwy gonest ac aeddfed at y gwelliant a wneir yn y Gogledd. Ac, a dweud y gwir, agwedd sydd ychydig yn fwy gonest ac aeddfed at y cyfrifoldeb am ariannu gwasanaethau cyhoeddus ledled y Deyrnas Unedig. Mae’n beth haerllug iawn bod gwleidydd Torïaidd yn dod i’r fan hon ac yn cwyno am dynged gwasanaethau cyhoeddus a'u cyllid digonol. Mae eich plaid chi yn gyfrifol am gyflwr enbyd y cyllid sydd i’w roi i wasanaethau cyhoeddus ledled y Deyrnas Unedig. Dylech gymryd peth—[Torri ar draws.] Dylech gymryd cyfrifoldeb ac arddel hynny eich hunan.
Gwrandewch ar ateb Ysgrifennydd y Cabinet, os gwelwch yn dda. Dyna beth oedd hynny. Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Pwynt o drefn sy'n deillio o'r cwestiwn brys. Angela Burns.
Diolch, Llywydd. Hoffwn godi pwynt o drefn, Llywydd. Nid oes gennyf unrhyw broblem o gwbl gyda sgarmesoedd arferol gwleidyddiaeth. Yr hyn yr wyf yn ei wrthwynebu yw cael fy nghamddyfynnu yn fwriadol. Rwy’n gwybod beth ddywedais i, oherwydd roeddwn yn glir iawn, iawn gan fy mod yn dymuno tawelu meddyliau y bobl yn y byrddau iechyd hyn. Yr hyn yr oeddwn yn ei ddweud oedd fy mod yn gwybod—ac rwyf yn meddwl fy mod wedi dyfynnu nyrsys, porthorion a gweithwyr cymunedol—y byddant yn parhau i gael eu talu, a lle byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud y mae’r mannau i’w hadolygu ar gyfer arbedion cost. Yn fy marn i, cefais fy nghamddyfynnu yn fwriadol gan Joyce Watson ar hynny a hoffwn ei roi ar gofnod.
A gaf i ddiolch i chi am yr eglurhad hwn? Bydd y Cofnod yn rhoi ei ddyfarniad ar y mater hwn, pan gaiff ei gyhoeddi. Ond rwy’n erfyn ar bob Aelod, fel rwyf wedi atgoffa'r Aelodau cyn hyn, i wrando'n ofalus iawn ar yr hyn y mae’r Aelodau eraill yn ei ddweud, a dehongli hynny yn ofalus wrth iddyn nhw wneud hynny. Ac rwyf yn gofyn hynny gan bob Aelod.