2. Cwestiwn Brys: Gorwariant Byrddau Iechyd Lleol

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 28 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:31, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n hapus i gadarnhau unwaith eto, fel yr wyf wedi ei wneud ym mhob cyfweliad ac wrth ateb pob cwestiwn a ofynnwyd imi am hyn, y bydd biliau yn cael eu talu, y bydd staff yn cael eu cyflogau ac ni fyddwn yn gweld amharu ar driniaethau o ganlyniad i sefyllfa’r byrddau iechyd hyn. Byddwn yn talu’r arian hwn o’r canol, ond byddwn yn gwneud yn siŵr bod eglurder o ran faint o orwariant fu ym mhob un o'r byrddau iechyd hyn yn unigol. Ac o ran y dyfodol, wel, wrth gwrs, rydym yn mynd drwy'r rownd gynllunio ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Ac felly, bydd byrddau iechyd sydd mewn sefyllfa wahanol, ac ymddiriedolaethau, yn cael cymeradwyaeth ar gyfer eu cynlluniau tymor canolig integredig. Bydd rhagor o wahaniaethu rhwng y rhai sydd yn sefydliadau cymeradwy, a'r rhai sydd yn mynd drwy'r broses uwchgyfeirio, ac sydd naill ai mewn ymyrraeth wedi ei thargedu neu fesurau arbennig. Mae’n rhaid cael eglurder am safle pob bwrdd iechyd a safle pob ymddiriedolaeth, a byddaf yn rhoi hynny.

Nid wyf yn dweud unrhyw beth ychwanegol wrth yr Aelodau heddiw nad wyf wedi ei ddweud yn barod wrth y rhai sy’n arwain ac yn rhedeg y sefydliadau hyn. Ac rwy’n cael yr un drafodaeth yn gyhoeddus fel ag yn breifat am yr angen i sicrhau gwelliant ariannol sylweddol, ac ymdrin â'r angen am drawsnewidiad yn ein gwasanaethau hefyd. A byddaf, wrth gwrs, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau unwaith eto ar y cynnydd yn y sefyllfa gyda rheolaeth ariannol a hefyd gyda sefyllfa’r gwasanaeth. Byddaf yn gwneud hynny pan fyddaf yn dod yn ôl i adrodd ar y Cynlluniau Tymor Canolig Integredig hynny sydd wedi'u cymeradwyo, a'r rhai nad ydynt wedi’u cymeradwyo, a'r camau yr ydym yn eu cymryd i gefnogi a herio’r sefydliadau hynny nad ydynt ar hyn o bryd mewn sefyllfa lle gallaf gymeradwyo, neu y byddaf yn fodlon cymeradwyo, gynllun tymor canolig integredig.