Part of the debate – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 28 Mawrth 2017.
Roeddwn innau hefyd wedi fy arswydo gan y tanau glaswellt a ymledodd yn ffyrnig yn fy etholaeth i dros y penwythnos. Roedd y tân glaswellt yn Nhonypandy i’w weld o’m cartref ym Mhenygraig, a gwn fod nifer o bobl yn lleol yn pryderu y byddai’n lledu hyd at dai lleol. Mae'r tanau yn tueddu i gyrraedd uchafbwynt tua’r adeg hon o'r flwyddyn, ym mis Ebrill. Byddem o bosibl wedi gweld rhagor o danau erbyn hyn oni bai am y glaw. Ond y ffeithiau moel yw bod nifer y tanau glaswelltir, coetir a chnydau wedi codi yn y tri awdurdod tân ac achub yn 2015-16. Ac yn awdurdod tân ac achub De Cymru, gwelwyd y cynnydd mwyaf o 36 y cant. O ran cyfraddau tanau cnwd Cynon Taf yn 2015-16, rydym bron ddwbl maint cyfradd yr awdurdod lleol agosaf atom.
Nawr, es i sesiwn friffio yr wythnos diwethaf lle’r oedd diffoddwyr tân yn rhoi gwybod i mi am faterion penodol yn ymwneud â'r Rhondda, ac am y gwaith rhagorol y maen nhw wedi ei wneud i atal tanau trwy addysg, a hefyd drwy osod rhwystrau tân, a'r gwaith y maen nhw’n ei wneud pan fydd y tanau yn ymledu’n wyllt. Ond mae angen gwneud rhagor. Ac un peth a awgrymwyd i mi a allai helpu oedd pe byddai modd llacio’r cyfyngiadau ar gynnau tanau ar ben mynyddoedd. Ar hyn o bryd, mae'r diffoddwyr tân yn gallu gosod rhwystrau tân, ond oherwydd tywydd anffafriol maen nhw wedi methu â gwneud hynny. Ac mae’r cyfyngiadau yn golygu nad oes ganddynt ganiatâd i wneud hynny ar ôl 31 Mawrth. Felly, pe byddai unrhyw lacio ar y ddeddfwriaeth hon, rwy’n credu y byddai'n ddefnyddiol ystyried hynny.
Ac yna, yn olaf, roeddwn am godi mater gorsaf dân Porth, a gafodd ei chau ym mis Gorffennaf 2015. Cyn iddi gael ei chau, erfyniais ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd ac achub yr orsaf dân ar sail diogelwch y cyhoedd. Caniateir ymyrraeth i atal cau yn yr amgylchiadau hynny, ond collwyd y cyfle yr adeg honno. Rwy’n gobeithio yn fawr, Gweinidog, y byddwch yn ystyried y cyfle a gollwyd, a gweithredu'n unol â hynny pe codai sefyllfa debyg yn y dyfodol.