3. Cwestiwn Brys: Tanau Glaswellt

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 28 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:42, 28 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am ei chwestiynau. Ceisiaf ymdrin yn fanwl â phob un ar wahân. Rwy'n cydnabod bod yr Aelod wedi defnyddio’r ffigurau—rwy’n tybio o’r ffigurau gan a roddwyd gan Lywodraeth Cymru. Rydym wedi edrych ar y rheini’n ofalus iawn ar sail yr hyn a oedd wedi'i gynnwys yn y niferoedd. Roedd y ffigurau a ryddhawyd yn wallus wrth adrodd fel hyn, ac nid oes unrhyw fai ar yr Aelod am adrodd fel y gwnaeth, ond byddaf yn rhoi eglurdeb arnynt heddiw. Y ffigurau a gyhoeddwyd yn y mis diwethaf oedd y rhai ar gyfer y flwyddyn ariannol 2015-16. Roedden nhw’n cynnwys pob un o danau 2015 ond nid oeddent yn ystyried llwyddiant ymgyrch y llynedd. Byddaf yn diwygio hynny ar gyfer yr Aelodau. Roedd ffigurau gwasanaethau tân yn dangos gostyngiad yn y gyfradd o 41 y cant yn ystod y flwyddyn galendr 2016 o'i chymharu â 2015. Felly, mae gostyngiad wedi digwydd. Ac rwy’n tybio bod y ffigurau a ddyfynnwyd gan yr Aelod yn anghywir, ond ffigurau Llywodraeth Cymru ydyn nhw. Ac rwyf yn derbyn hynny; nid oedden nhw’n cynnwys yr holl ddata yn gywir. Rwy’n ymddiheuro i'r Aelod oherwydd hynny, ond byddaf yn diwygio’r rheini. Bu gostyngiad sylweddol yn nifer y tanau a gychwynnwyd yng Nghymru, ond mae llawer mwy o waith eto i'w wneud.

Mae'n rhy gynnar o lawer i awgrymu bod y sefyllfa’n waeth ar gyfer y Pasg eleni, o’i chymharu â’r cyfnod hyd at y Pasg y llynedd. Rydym, mae’n amlwg, am weithio'n galed gyda'r gwasanaethau brys i egluro’r sefyllfa honno.

Ceisiodd yr Aelod, yn anffodus, wrth gloi, wneud pwynt gwleidyddol, o ran gorsaf dân Porth. Mae’r Aelod yn gwbl ymwybodol o ddyletswyddau Ysgrifennydd y Cabinet heddiw, ac yn flaenorol fel Gweinidog. Mater i wasanaeth tân de Cymru yw hwn, ac nid mater i'r Llywodraeth. Ac nid yw’r cyfle a gollwyd y mae’r Aelod yn sôn amdano yn un a gollwyd gan y Llywodraeth.