Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 29 Mawrth 2017.
Fel rwyf wedi’i ddweud wrth Aelodau eraill, credaf ei bod yn hanfodol, fel rhan o’n hymagwedd newydd—ac unwaith eto, yn fy araith yr wythnos diwethaf, nodais sut y byddaf yn ailstrwythuro fy adran—ein bod yn rhoi mwy o sylw i’r cymunedau yn yr ardaloedd hynny sydd wedi gwneud yn wael mewn cyfnod o dwf economaidd. Holodd yr Aelod ynglŷn â seilwaith, a chysylltedd yn benodol. Credaf fod hynny’n gwbl hanfodol, ac roedd datblygu estyniad £11.5 miliwn i’r rheilffordd rhwng Parcffordd Glynebwy a safle’r Gweithfeydd yng Nglynebwy, a gwblhawyd ym mis Mai 2015 gan ddarparu mynediad rheilffordd uniongyrchol i’r ardal fenter, yn enghraifft wych o sut y gall Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei hadnoddau a’i dulliau’n fwy effeithiol er mwyn sicrhau bod pob rhan o Gymru yn elwa o dwf economaidd.