<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 29 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 1:41, 29 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n llongyfarch Llywodraeth Cymru ar yr estyniad hwnnw i mewn i Lynebwy. Mae’n sicr yn arloesol iawn ac mae’n wych gweld rheilffyrdd yn cael eu gosod unwaith eto.

Dywed Trenau Arriva Cymru wrthym nad ydynt yn gallu cynnig gwasanaeth i mewn i Gasnewydd gan fod y capasiti’n llawn ar gyfer y rheilffordd rhwng Glynebwy a Chaerdydd. ‘Does bosib na all trydaneiddio, a’r gwasanaeth gwell y mae hyn ei addo, helpu i hwyluso gweithrediad y rheilffordd i mewn i Gasnewydd, sy’n gyswllt y mae ei angen yn daer.