Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 29 Mawrth 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae llawer o bwyslais wedi’i roi ar adroddiad diweddar Demos, sy’n tynnu sylw at effaith Brexit ar ranbarthau’r DU fel Cymru. Nawr, wrth edrych ar yr adroddiad yn ei gyfanrwydd, mae sawl pwynt perthnasol yn cael ei nodi, gan gynnwys y potensial i fargeinion dinesig a gweinyddiaethau datganoledig edrych y tu hwnt i’r DU a’r UE er mwyn denu buddsoddiad tramor. Yng Nghymru, rydym yn dal i ddibynnu’n helaeth iawn ar allforion i’r UE, wrth gwrs. Mae’r ffigurau diweddaraf yn awgrymu bod 67 y cant o’n hallforion yn mynd i’r Gymuned Ewropeaidd, o gymharu â 44 y cant yn unig yn 2012. Felly, a gaf fi ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, pa gamau a gymerwyd gennych i sicrhau bod awdurdodau lleol sy’n rhan o’r bargeinion dinesig yn defnyddio eu dylanwad i helpu busnesau Cymru i edrych y tu hwnt i Ewrop a pharatoi ar gyfer marchnadoedd allforio newydd?