Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 29 Mawrth 2017.
Credaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn yn yr ystyr fod gan awdurdodau lleol rôl arwyddocaol yn y gwaith o hybu twf economaidd yn eu hardaloedd. Un o fy mhryderon yn ystod fy nghyfnod yn y swydd hon yw diffyg capasiti ac adnoddau mewn rhai rhannau o Gymru i wneud hynny ar lefel yr awdurdodau lleol, a dyna pam rwy’n cymeradwyo’r dull a fabwysiadir ar lefel ranbarthol, drwy ardaloedd y dinas-ranbarthau a rhanbarthau cytundeb twf, i ddod â’r rhai sy’n llwyddo i sbarduno twf lleol a’r rhai sydd â phrofiad o allforio at ei gilydd. Nawr, yr hyn a wnaethom yn ne Cymru ac yng ngogledd Cymru—ac rydym yn ystyried gwneud yr un peth yn y canolbarth—yw dod â’r rhai sy’n gyfrifol am ddatblygu economaidd a’r rhai sydd â phrofiad o allforio at ei gilydd ar lefel yr awdurdodau lleol, ac estyn allan at yr holl allforwyr posibl ym mhob rhanbarth er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn yr holl gyngor a chefnogaeth sydd eu hangen i fanteisio ar allforion yn y dyfodol.