Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 29 Mawrth 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae cyfleoedd buddsoddi, wrth gwrs, yn bodoli y tu hwnt i Ewrop, fel y nodir yn adroddiad Demos, gan gynnwys Tsieina. Nawr, i Tsieina yr aiff 2 y cant o farchnad allforio Cymru ar hyn o bryd, ac mae’r allforion wedi lleihau 3.5 y cant ers 2013. Diben pennaf y daith fasnach ddiweddar i Tsieina oedd cryfhau cysylltiadau gyda chwmnïau o Gymru, ond ychydig o lwyddiant a gafwyd yn hynny o beth. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal pum taith fasnach i Tsieina ers 2012, ond nid yw’r allforion wedi cynyddu’n sylweddol ers yr ymweliadau hynny. A wnewch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, amlinellu eich cynlluniau i ailgydbwyso allforion Cymru o blaid marchnadoedd mawr fel Tsieina?