<p>Cylchffordd Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 29 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:14, 29 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Nid yw Cylchffordd Cymru, wrth gwrs, yn gofyn am arian uniongyrchol, gan mai buddsoddiad preifat yw’r £425 miliwn. Maent yn chwilio am warant—am hynny y mae’r prosiect yn aros. Ac ar ôl rhoi pwysau eithafol ar Cylchffordd Cymru i sicrhau ymrwymiad o fewn pythefnos, pa hyder y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei roi i fuddsoddwyr a chefnogwyr brwd y prosiect y bydd penderfyniad yn cael ei wneud cyn bo hir, gan fod pob diwrnod, yn fy marn i, yn gwanhau’r hyder y bydd y prosiect hwn yn mynd rhagddo?