Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 29 Mawrth 2017.
A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei chwestiwn? Ac wrth gwrs, cyflwynwyd cynnig ffurfiol o ganlyniad i’r pwysau eithafol hwnnw. Ni fu’n bosibl i ddatblygwyr Cylchffordd Cymru ddarparu’r wybodaeth angenrheidiol i ganiatáu i broses diwydrwydd dyladwy ddechrau tan ddiwedd yr wythnos diwethaf. Ac mae’n anffodus hefyd fod y wybodaeth yn anghyflawn ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae fy swyddogion a’r ymgynghorwyr allanol a benodwyd wedi cychwyn ar broses diwydrwydd dyladwy ar sail y wybodaeth a ddarparwyd, ac wrth gwrs, mae hynny’n amodol ar ymateb amserol y cwmni i unrhyw ymholiadau pellach. Rydym yn disgwyl gallu adrodd yn ôl i’r Cabinet erbyn canol mis Mai.