<p>Cylchffordd Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 29 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:16, 29 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Gwnaf. Bydd nifer y swyddi a addawyd gan ddatblygwyr y prosiect yn cael ei archwilio’n drwyadl gan yr ymgynghorwyr sy’n cyflawni’r broses ddiwydrwydd dyladwy. Dechreuodd y profion person addas a phriodol yr wythnos hon. Mae ymgynghorwyr yn cynnal arfarniad o’r farchnad gan ystyried manteision posibl y prosiect o ran swyddi, yn ogystal â hyfywedd y prosiect yn ei gyfanrwydd yn y farchnad bresennol. Credaf ei bod yn gwbl hanfodol fod pobl y Cymoedd, a phobl Glynebwy yn arbennig, yn deall ac yn gwerthfawrogi potensial y prosiect hwn, ochr yn ochr â, ac o bosibl yn ychwanegol at, y cynlluniau mawr eraill sy’n cael eu cyflwyno gan fuddsoddwyr ar draws rhanbarth y Cymoedd, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i fuddsoddiad Parc Caerau, buddsoddiad Trago Mills ym Merthyr Tudful, yn ogystal â’r potensial ar gyfer planetariwm mawr yn Hirwaun. Mae gan bob un o’r prosiectau hyn gryn botensial, yn unigol a chyda’i gilydd.