Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 29 Mawrth 2017.
Saith wythnos yn ôl, wrth y blwch dogfennau hwnnw, ar 8 Chwefror, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrth y Senedd y byddai proses diwydrwydd dyladwy yn para rhwng pedair a chwe wythnos. Nawr, os oes problem wedi bod o ran diffyg gwybodaeth gyflawn, pam nad yw’r Llywodraeth wedi gwneud yr hyn y byddai’r sector preifat wedi’i wneud mewn sefyllfa o’r fath, gyda phrosiectau llawer mwy na hwn, sef rhoi pawb mewn ystafell—eu harchwilwyr, Grant Thornton, y cwmni, eu cyllidwyr ac ati, a Llywodraeth Cymru—er mwyn datrys y broblem hon? O ran y dyddiad y mae wedi’i roi inni bellach, sef canol mis Mai, pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o’r risg y mae hynny’n peri i hyfywedd ariannol y prosiect hwn, o ystyried bod hynny’n ymestyn y gofyniad am gyllid pontio?