Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 29 Mawrth 2017.
Rydym eisoes wedi gwneud hynny. Dyna oedd holl ddiben nodi terfyn o bythefnos ar gyfer cyflwyno’r cynnig ffurfiol. Ers hynny, mae datblygwyr Cylchffordd Cymru wedi gwybod yn union pa wybodaeth sydd ei hangen yn yr ystafell ddata, ac maent yn gwybod yn union sut i ddarparu’r wybodaeth honno. Eu cyfrifoldeb hwy yw cyflwyno’r wybodaeth er mwyn dirwyn y mater hwn i ben, i roi hyder i bobl Glynebwy a phrofi bod hwn yn brosiect hyfyw i Gymru.