<p>Cylchffordd Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 29 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 2:19, 29 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf fi gefnogi’r hyn y mae Adam Price newydd ei ddweud? Yn fy marn i, nid diwydrwydd dyladwy sydd dan sylw yma, ond arafwch dyladwy, gan fod datblygwyr Cylchffordd Cymru wedi bod yn awyddus i gyfarfod o gwmpas y bwrdd fel hyn ers peth amser, ac nid ydynt wedi cael cyfle i wneud hynny. Credaf fod natur gyfyngedig y warant a geisir yma yn elfen bwysig i’w hystyried. Oherwydd gwarant am gyllid ar 50 y cant o’r costau cyllido yn unig yw hi, ond bydd yn cael ei sicrhau ar 100 y cant o’r asedau, ac ni fydd yn dod i rym beth bynnag hyd nes y bydd yr asedau hynny wedi cael eu hadeiladu, a bod rhywbeth ffisegol i allu darparu sicrwydd. Rwy’n deall bod yn rhaid i Ysgrifennydd y Cabinet gwblhau’r broses ddiwydrwydd dyladwy, ond os gwelwch yn dda, a wnaiff fwrw ymlaen â hynny?