Part of the debate – Senedd Cymru am 6:45 pm ar 29 Mawrth 2017.
Nid yn ôl gweithdrefnau amhersonol, sy’n awtomataidd i raddau helaeth, y mae undebau credyd yn gwneud eu penderfyniadau ar roi benthyciadau ond yn amlach na pheidio ar sail cyfweliadau wyneb yn wyneb gydag aelodau. Bydd rhan o unrhyw asesiad ar gyfer benthyciad yn seiliedig ar brofiad aelodaeth yr unigolyn o’r undeb credyd. O ganlyniad, bydd benthyciadau cost isel yn cael eu rhoi i nifer o ymgeiswyr a allai’n hawdd fod wedi cael eu heithrio rhag cael benthyciadau gan ddarparwyr prif ffrwd eraill ac a allai fel arall gael eu gorfodi i droi at fenthycwyr arian didrwydded a diegwyddor neu fenthycwyr eraill gyda llog afresymol o uchel sy’n camfanteisio ar bobl sy’n cael trafferth i ymdopi, gan eu harwain i lefelau uwch o ddyled.
Cydnabyddir bod rhan ganolog gan undebau credyd, wrth gwrs, yn cefnogi cynllun cyflawni cynhwysiant ariannol Llywodraeth Cymru. Ar yr adeg hon o galedi a orfodwyd arnom, rydym wedi gweld cyfres o doriadau i fudd-daliadau lles, sydd wedi ychwanegu at nifer y bobl yng Nghymru sy’n wynebu allgáu ariannol. Ni fydd y darlun yn gwella wrth i doriadau pellach a gynlluniwyd ddod i rym.
I’r rhan fwyaf ohonom, mae cymryd benthyciad yn ymwneud â phrynu car newydd neu rywbeth drud ar gyfer y cartref, neu wyliau moethus unwaith mewn oes efallai. I’r rhai sydd wedi’u hallgáu’n ariannol, sy’n aml yn byw yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig ac sy’n cael eu taro’n amlach na neb gan doriadau i fudd-daliadau lles, mae’n debyg y bydd benthyciad yn ymwneud â’u gallu i dalu’r rhent, i dalu biliau cyfleustodau neu hyd yn oed i fwydo’r teulu. I’r bobl hyn, gallai benthyciad gan undeb credyd fod yn achubiaeth. Wrth edrych ar undeb credyd Merthyr Tudful yn fy etholaeth i, dengys ystadegau ar gyfer y chwe mis diwethaf fod dros 400 o’r 990 benthyciad a gymeradwywyd yn gysylltiedig â helpu pobl i brynu nwyddau adeg y Nadolig, tra bod bron i 70 yn ymwneud â thalu biliau pwysig, ôl-ddyledion rhent, prynu dillad neu gyfuno dyled, a phob un ohonynt yn dangos rôl hanfodol undebau credyd yn helpu’r rhai sydd wedi’u hallgáu’n ariannol i dalu eu costau byw o ddydd i ddydd.
Yng Nghymru, mae gennym oddeutu 80,000 o bobl sy’n aelodau o undeb credyd. Mae’r aelodaeth yng Nghymru wedi cynyddu o 50 y cant yn y pum mlynedd diwethaf ac mae’r twf mewn aelodaeth, asedau a benthyciadau ar gyfer y cyhoedd wedi bod yn fwy yma nag yn unman arall yn y DU. Yn ystod y flwyddyn hyd at fis Medi y llynedd, cyrhaeddodd benthyciadau i aelodau gyfanswm o £22.3 miliwn, cynnydd o 12 y cant ar y flwyddyn flaenorol. Yn fwyaf arwyddocaol i mi, mae’r ffaith fod undebau credyd yng Nghymru yn 2015-16 wedi rhoi dros 10,000 o fenthyciadau, gwerth £9.2 miliwn, i bobl wedi’u hallgáu’n ariannol. Fodd bynnag, er gwaethaf y twf hwn yn aelodaeth undebau credyd yng Nghymru, ar 2.7 y cant o’r boblogaeth a tharged o gyrraedd 5 y cant erbyn 2011, mae’n parhau i fod yn is na lefel yr aelodaeth yn yr Alban, ar 7 y cant, a Gweriniaeth Iwerddon, ar y lefel anhygoel o 75 y cant. Er hynny, dylid nodi bod y twf a welsom yng Nghymru yn deillio i raddau helaeth o’r gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi. Fel rhan o gefnogaeth Llywodraeth Cymru i undebau credyd, sefydlwyd cronfa o fwy na £420,000 ar gyfer 2017-18 gyda’r nod o gynorthwyo undebau credyd yma i symud tuag at sicrhau eu cynaliadwyedd hirdymor eu hunain, er mwyn peidio â bod yn ddibynnol ar arian cyhoeddus yn y dyfodol. A dyna, wrth gwrs, yw un o’r heriau go iawn i’n hundebau credyd yng Nghymru. Oherwydd er y cynnydd sylweddol yng nghyfanswm gwerth y benthyciadau gan undebau credyd, dengys dadansoddiad o lefel y benthyciadau gan undebau credyd i aelodau, fod hyn wedi disgyn islaw cyfradd y cynnydd yn asedau undebau credyd. Felly, oni bai bod undebau credyd yn gallu cynyddu cymhareb benthyciadau, byddant yn ei chael yn fwy anodd bod yn ddigon proffidiol i gynyddu eu cronfeydd wrth gefn ar gyfradd a fydd yn eu gwneud yn hyfyw yn y tymor hwy.
Mae undeb credyd Merthyr Tudful y cyfeiriais ato’n gynharach yn eithaf nodweddiadol o nifer o rai eraill yng Nghymru. Fe’i sefydlwyd ym 1998, ac erbyn 2008, roedd ei aelodaeth wedi cyrraedd 1,200, ac roedd yn cyflogi chwe aelod o staff. Yn yr wyth mlynedd ers hynny, mae’r aelodaeth wedi codi i 4,800, gyda’r undeb credyd bellach yn cyflogi naw aelod o staff, gyda thros 50 o wirfoddolwyr. Maent wedi gweld cynnydd sydyn yn yr aelodaeth, ond canran fach o bobl o hyd a fyddai’n cael eu cynnwys yn ardal y bond cyffredin, ac ni fydd yn cynnwys llawer yn yr ardal y gellid ystyried eu bod wedi’u hallgáu’n ariannol. Felly, er bod aelodaeth o undebau credyd wedi cynyddu, yn aml digwyddodd hynny ymhlith pobl fel ni sydd wedi ymrwymo i’r athroniaeth sy’n sail i undebau credyd, ac nid yw’r aelodaeth ymysg y rhai a fyddai’n elwa fwyaf wedi cynyddu ar yr un gyfradd.
Lywydd, er gwaethaf y gefnogaeth ariannol a ddarperir i’r undeb credyd gan Gyngor Merthyr Tudful, roeddwn yn synnu clywed mai’n ddiweddar yn unig y mae’r undeb credyd wedi bod yn trafod sefydlu cynllun didynnu o’r gyflogres gyda hwy, a hyd yma ychydig o gynlluniau didynnu o’r gyflogres yn unig sydd ganddo gyda busnesau lleol. Nid yn unig y mae cynlluniau didynnu o’r gyflogres llwyddiannus yn arwain at gynyddu’r aelodaeth, yn aml, pobl mewn cyflogaeth sicr, gyda chyflogau rhesymol sy’n cymryd y benthyciadau mwy o faint a mwy hirdymor sy’n galluogi’r undeb credyd i fod yn ddigon proffidiol i wneud benthyciadau llai o faint, byrdymor yn aml, i bobl wedi’u hallgáu’n ariannol, sef y bobl, wrth gwrs, y mae undebau credyd yn y sefyllfa orau i’w helpu.
Felly, wrth gydnabod pwysigrwydd undebau credyd yn mynd i’r afael ag allgáu ariannol, beth y gallwn ei wneud fel Aelodau Cynulliad i sicrhau bod undebau credyd yn llwyddiannus ac yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol? Wel, rwy’n gweld fy hun fel un sydd â rhan bwysig i’w chwarae yn siarad â sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus yn fy ardal ynglŷn â darparu cyfleusterau didynnu o’r gyflogres ar gyfer eu gweithwyr eu hunain a hyrwyddo eu hundebau credyd lleol yn eu deunydd cyfathrebu. Byddaf hefyd yn gofyn iddynt ddefnyddio prosesau caffael i annog unrhyw gontractwyr y maent yn eu defnyddio i ddarparu trefniadau tebyg hefyd. Yn yr un modd, pan fyddaf yn cyfarfod â chwmnïau yn y sector preifat, byddaf yn eu hannog i edrych ar hyrwyddo’r undeb credyd lleol gyda’u gweithwyr, ac fel Cynulliad dylem wneud mwy i hyrwyddo manteision undebau credyd ar bob cyfle.
Ddirprwy Lywydd, wrth i ni barhau i wynebu heriau polisïau caledi wedi’u gyrru gan Lywodraeth y DU, bydd undebau credyd yn parhau i chwarae rhan hanfodol yn mynd i’r afael ag allgáu ariannol, ac mae gennym ddyletswydd i wneud popeth yn ein gallu i sicrhau y gallant oroesi a ffynnu.