– Senedd Cymru am 7:01 pm ar 29 Mawrth 2017.
Symudwn yn awr at eitem 10, sef dadl fer, a galwaf ar Steffan Lewis i siarad ar y pwnc y mae wedi’i ddewis. Steffan.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n eithaf hyderus mai hon fydd y fyrraf o’r dadleuon byr, bydd y Gweinidog yn falch o glywed, ar ddiwedd diwrnod hir.
Rwy’n falch o gael y cyfle hwn i sôn am enseffalopathi trawmatig cronig a’i gysylltiadau posibl â chwaraeon cyswllt fel pêl droed. Deuthum yn ymwybodol o’r mater hwn ar ôl clywed cyfweliad gyda gwraig y diweddar Frank Kopel, cyn chwaraewr Dundee United a gafodd ddiagnosis o ddementia yn 59 oed. Mae hi wedi bod yn ymgyrchu am fwy o ymwybyddiaeth o enseffalopathi trawmatig cronig ers marwolaeth Frankie ac mae wedi siarad yn huawdl iawn am ei phrofiadau yn gofalu amdano yn ddiweddarach mewn bywyd.
Arweiniodd sganiau ymennydd a ailarchwiliwyd gan Dr Willie Stewart, niwropatholegydd, at y casgliad fod cyflwr Frankie wedi ei achosi gan flynyddoedd o ergydion i’r pen dro ar ôl tro gan bêl-droedwyr eraill a hefyd o beniadau pêl-droed—gan gofio bod Frankie yn arfer chwarae mewn cyfnod pan oedd peli’n pwyso tua 450g. Trafodwyd y cysylltiad rhwng anafiadau i’r pen mewn chwaraeon a niwed i’r ymennydd yn ddiweddar mewn perthynas â rygbi a cheir dadleuon hirsefydlog a miniog mewn perthynas â phêl-droed Americanaidd.
Ond ni chafodd y cysylltiad rhwng enseffalopathi trawmatig cronig a phêl-droed ei drafod a’i ystyried yn llawn tan yn ddiweddar iawn. Y mis diwethaf, cyhoeddwyd ymchwil arloesol gan wyddonwyr o Goleg Prifysgol Llundain a Phrifysgol Caerdydd yn canolbwyntio ar bêl-droedwyr wedi ymddeol yn ardal Abertawe. Rhwng 1980 a 2010, cafodd 14 o bêl-droedwyr wedi ymddeol a oedd wedi cael eu cyfeirio at wasanaeth seiciatreg yr henoed yn Abertawe eu monitro hyd at eu marwolaeth. Datblygodd pob un o’r pêl-droedwyr wedi ymddeol nam gwybyddol cynyddol, a datgelodd archwiliad niwropatholegol annormaleddau parwydol yn y chwe chwaraewr lle y cynhaliwyd archwiliad post-mortem o’r ymennydd. Bu farw deuddeg o achosion o glefyd niwroddirywiol datblygedig a chafodd enseffalopathi trawmatig cronig ei gadarnhau’n batholegol mewn pedwar achos.
Nid yw’r astudiaeth yn cadarnhau’n uniongyrchol fod cysylltiad rhwng ergydion ailadroddus i’r pen ac enseffalopathi trawmatig cronig, ond mae’n dweud bod angen ymchwil pellach. Mae chwaraewr cyffredin yn penio’r bêl chwech i 12 gwaith mewn gêm bêl-droed ac o leiaf 2,000 o weithiau mewn gyrfa 20 mlynedd. Ond mae anafiadau i’r pen yn fwy tebygol o fod wedi’u hachosi gan gyswllt pen a chwaraewr na chyswllt pen a phêl. Mae’r anhawster i ganfod niwed yn codi o’r ffaith nad yw’r rhan fwyaf o ergydion yn achosi cyfergyd, sy’n golygu nad ydynt yn arwain at fod yn anymwybodol neu’n arddangos symptomau niwrolegol amlwg.
Yn fy marn i, mae’n llawer rhy gynnar i wneud honiadau pendant am bêl-droedwyr ac enseffalopathi trawmatig cronig, y tu hwnt i’r hyn a wyddom o’r ymchwil ddiweddaraf y chwaraeodd gwyddonwyr o Gymru ran flaenllaw ynddo. Yn wir, mae prif wyddonydd Cymdeithas Alzheimer wedi dweud nad yw’r ymchwil a wnaed yn Abertawe yn rhoi prawf fod peniadau pêl-droed yn achosi dementia, ond mae’n amlwg—a cheir cytundeb ar draws ymchwil ac ymhlith gwyddonwyr ar hyn—fod angen gwaith ymchwil pellach ac mae angen codi ymwybyddiaeth o effaith anafiadau ailadroddus i’r pen ar bêl-droediwr ar hyd eu gyrfa.
Fel cefnogwr pêl-droed fy hun, ni fyddwn eisiau rhuthro i gasgliadau o fath yn y byd a phenderfynu ei gwneud yn anos i bobl ifanc gymryd rhan lawn yn y gamp. Fel rhywun sy’n dwli ar y gêm, ni fyddwn am inni ruthro’n fyrbwyll at sefyllfa lle y caiff natur y gêm ei newid yn sylweddol. Ond diben cyflwyno’r ddadl fer hon heddiw a chodi’r mater penodol hwn yw gofyn i Lywodraeth Cymru a fyddent yn ystyried gwneud dau beth. Yn gyntaf, yr hyn sy’n amlwg i mi yw bod angen codi ymwybyddiaeth o enseffalopathi trawmatig cronig ac anafiadau pen yn gyffredinol mewn pêl-droed, a sut rydym yn trin anafiadau pen yn y gamp wrth iddynt ddigwydd. Mae rygbi wedi rhoi camau ar waith i ddiogelu chwaraewyr yn well pan fyddant yn cael anafiadau i’r pen yn ystod y gêm. Felly, tybed a fyddai’r Gweinidog yn cytuno o leiaf i ystyried cynnull uwchgynhadledd o gyrff rheoli pêl-droed a chyrff cynrychioliadol y byd pêl-droed yng Nghymru i rannu gwybodaeth ac arferion gorau yn y gamp, a allai gynnwys arbenigwyr yn y maes yn ogystal ag arbenigwyr gwyddonol a meddygol, fel ein bod yn rhannu arferion gorau ac ar lawr gwlad yn arbennig, fod hyfforddwyr pêl-droed a rhieni ac eraill sy’n gysylltiedig yn gallu bod yn ymwybodol o hyn er mwyn edrych am arwyddion o gyswllt pen wrth ben ac i gymryd gofal a rhoi sylw arbennig wrth benderfynu a yw’n ddiogel i chwaraewr barhau i chwarae.
Yn ail, tybed a fyddai’r Gweinidog yn ystyried gweithio gyda’r rhai sydd ynghlwm wrth hyn—gan fod Cymru wedi bod yn ganolog i’r gwaith ymchwil diweddaraf, fel y soniais, gyda gwyddonwyr Prifysgol Caerdydd yn rhan o’r ymchwil yn Abertawe—i adeiladu ar enw da posibl Cymru yn fyd-eang ym maes ymchwil enseffalopathi trawmatig cronig a chwaraeon. Felly, efallai y gallai Llywodraeth Cymru gynnal cynhadledd ryngwladol ar enseffalopathi trawmatig cronig a chwaraeon yng Nghymru, gan ddefnyddio amlygrwydd Cymru yn rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA eleni fel llwyfan i ennyn diddordeb ac i wahodd FIFA, UEFA a chymdeithasau pêl-droed o bob cwr o’r byd i ddod at ei gilydd gyda’r ymchwilwyr gwyddonol a’r arbenigwyr sydd gennym yn y maes yn y wlad hon. Gallai fod yn gyfle euraid arall i gryfhau enw da Cymru fel canolfan fyd-eang i ragoriaeth mewn ymchwil yn ogystal â dysgu llawer mwy, wrth gwrs, am enseffalopathi trawmatig cronig a phêl-droed, fel y gallwn atal yr achosion trist iawn sydd wedi digwydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf o anaf hirdymor i’r pen a dementia cynamserol. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn a galwaf ar y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd i ymateb i’r ddadl. Rebecca Evans.
Diolch i chi, a hoffwn ddiolch i Steffan Lewis am gyflwyno’r pwnc pwysig hwn ac am hybu’r ddadl hon heddiw.
Mae enseffalopathi trawmatig cronig yn glefyd cynyddol a dirywiol ar yr ymennydd a welir mewn pobl sydd â hanes o drawma ymennydd ailadroddus, gan gynnwys cyfergydion rheolaidd neu ergydion ailadroddus i’r pen. Mae’r posibilrwydd o gysylltiadau rhwng y cyflwr a gweithgareddau chwaraeon penodol wedi cael ei gofnodi ers peth amser. Mae Prifysgol Boston yn yr Unol Daleithiau yn nodi ei bod yn hysbys fod enseffalopathi trawmatig cronig yn effeithio ar rai paffwyr ers y 1920au, pan gâi ei alw’n syndrom ‘punch-drunk’.
Fodd bynnag, mae’n hysbys erbyn hyn nad yw’r cyflwr wedi’i gyfyngu i gyn-baffwyr. Mae astudiaethau mwy diweddar wedi edrych ar y cysylltiadau posibl â chwaraeon eraill cyswllt trwm, megis pêl-droed Americanaidd a hoci iâ. Ceir peth dadlau o hyd ynglŷn â pha mor gyffredin yw’r cyflwr. Mewn llawer agwedd ar fywyd, ac mewn chwaraeon ac iechyd y cyhoedd yn enwedig, mae yna bob amser risgiau a manteision i’w hystyried ochr yn ochr â’i gilydd. Mae tystiolaeth yn chwarae rhan hanfodol i’n helpu i wneud dewisiadau mwy gwybodus wrth gydbwyso’r risgiau a’r manteision hyn.
Mae llawer o chwaraeon yn cynnwys rhyw elfen o risg o gael anaf yn y tymor byr neu’r tymor hir. Mae’n bwysig ein bod yn rhoi camau cymesur ar waith i greu amgylcheddau chwaraeon diogel i bawb, heb gyfyngu ar gyfleoedd i blant ac oedolion ymgymryd â gweithgarwch corfforol a chymryd rhan mewn chwaraeon. Rydym hefyd yn gwybod am y manteision cadarnhaol lluosog i iechyd corfforol ac iechyd meddwl, yn ogystal â nifer o fanteision cymdeithasol, a ddaw yn sgil cymryd rhan mewn chwaraeon.
Mae ein rhaglen lywodraethu yn ei gwneud yn glir ein bod wedi ymrwymo i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd dewisiadau ffordd o fyw iach, gan gynnwys bod yn fwy egnïol yn gorfforol. Rydym yn naturiol yn awyddus i bob person ifanc gael ystod eang o gyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon, gan adeiladu ar hanes hir Cymru yn ogystal â llwyddiannau diweddar. Serch hynny mae’n rhaid i ni fod o ddifrif ynglŷn â diogelwch mewn chwaraeon. Mae gennym i gyd gyfrifoldeb, yn unigol ac ar y cyd, i sicrhau bod pawb, gan gynnwys pobl ifanc, plant a phobl hŷn, yn gallu cymryd rhan yn ddiogel. Lle y bo angen, dylem roi camau rhesymol ar waith i liniaru’r niwed i chwaraewyr proffesiynol ac i bobl sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon o ran pleser yn unig.
Efallai y bydd rhai ohonoch yn cofio’r newyddion rai blynyddoedd yn ôl am farwolaeth drasig ac annhymig Benjamin Robinson. Dim ond 14 oed oedd Benjamin pan fu farw o ganlyniad i gael cyfergyd dwbl yn ystod gêm rygbi ysgol yng Ngogledd Iwerddon. Cafodd Benjamin ei gyfergyd cyntaf ar ddechrau’r ail hanner, ond daliodd i chwarae am 25 munud arall a chafodd ddau wrthdrawiad trwm pellach. Barnodd y crwner mai syndrom ail ergyd a achosodd farwolaeth Benjamin yn dilyn cyfergyd, a gellid bod wedi’i osgoi pe bai rhywun wedi gallu adnabod arwyddion cyfergyd a’i dynnu o’r gêm.
Roedd y Llywodraeth yn benderfynol o weithredu er mwyn osgoi achosion tebyg rhag digwydd yn y dyfodol. Ym mis Medi 2014, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru, gan weithio’n agos gydag Undeb Rygbi Cymru, ganllawiau ar gyfergydion ar gyfer ysgolion a chwaraeon cymunedol hyd at 19 oed. Mae’r canllawiau’n nodi sut i adnabod a rheoli symptomau cyfergyd yn dilyn anaf i’r pen a gafwyd yn ystod gweithgarwch corfforol mewn plant. Mae hefyd yn cynnwys canllawiau ar gyfer dychwelyd yn raddol at chwarae a gwaith ysgol i blant sy’n cael diagnosis o anaf cyfergyd. Mae wedi’i anelu at amrywiaeth eang o weithwyr a chyrff proffesiynol, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol ym myd chwaraeon, athrawon, cyrff llywodraethu ysgolion, sefydliadau addysg bellach, cyrff chwaraeon cenedlaethol a hyfforddwyr chwaraeon ieuenctid a staff cymorth. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i’r rhai sy’n ymwneud â chwaraeon mewn ysgolion ac yn y gymuned sicrhau bod y canllawiau’n cael eu dilyn, eu lledaenu’n gywir a’u hymgorffori mewn unrhyw bolisïau sy’n berthnasol i ymdrin ag anafiadau i’r pen a ddioddefir gan blant a phobl ifanc hyd at 19 oed mewn unrhyw amgylchedd lle y mae gweithgarwch corfforol yn digwydd. Mae hynny’n cynnwys pêl-droed. Mae’n galonogol gweld yr esiampl a osodwyd gan rygbi rhyngwladol ym mhencampwriaeth y chwe gwlad RBS yn ddiweddar, lle y gwelsom ymagwedd dim goddefgarwch mewn perthynas â chwaraewyr yn dioddef anafiadau pen, gyda chwaraewyr yn cael eu tynnu o’r gêm i gael asesiad meddygol llawn cyn dychwelyd, os oedd yn ddiogel i wneud hynny.
Rwyf wedi sôn o’r blaen ynglŷn â chynnal y cydbwysedd rhwng diogelwch ac annog cyfranogiad mewn gweithgarwch corfforol. Cafwyd galwadau am wahardd rhai agweddau ar rygbi ar gyfer pobl ifanc. Ysgrifennodd y Sports Collision Injury Collective lythyr agored at Lywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig yn 2016, yn galw am wahardd rygbi cyswllt ar gyfer plant oedran ysgol, gan nodi peryglon anaf hirdymor i bobl ifanc, megis cyfergydion. Mewn ymateb, comisiynodd prif swyddogion meddygol y DU bwyllgor arbenigol ar weithgarwch corfforol y DU i ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd gan SCIC. Yn dilyn adolygiad o’r dystiolaeth hon, gwrthododd y pwyllgor yr alwad i wahardd taclo ac nid oedd yn teimlo bod cymryd rhan mewn rygbi yn peri risg annerbyniol o niwed. Adroddodd y pwyllgor hefyd fod manteision profi, dysgu, hyfforddi a chwarae rygbi gyda goruchwyliaeth briodol, diogelwch a hyfforddiant gryn dipyn yn fwy na’r risgiau o anaf.
Ym mis Chwefror eleni tynnodd y cyfryngau sylw at dystiolaeth a ddaeth yn amlwg o gysylltiad rhwng penio pêl-droed a dementia. Roedd yr astudiaeth yn canolbwyntio ar destun ein dadl heddiw—enseffalopathi trawmatig cronig. Cafodd y pennawd ei ysgogi gan ganlyniadau astudiaeth fechan lle y cynhaliwyd archwiliadau post-mortem ar chwe chyn-chwaraewr proffesiynol gyda hanes o ddementia. Cynhaliwyd yr astudiaeth gan ymchwilwyr o Goleg Prifysgol Llundain, Prifysgol Caerdydd ac Ysbyty Cefn Coed yn Abertawe. Cafodd ei hariannu gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Sefydliad Drake. Canfu ymchwilwyr fod gan bedwar chwaraewr batrwm o niwed i’r ymennydd yn gyson ag enseffalopathi trawmatig cronig. Awgrymwyd mai’r rheswm dros anafiadau yn y pedwar chwaraewr pêl-droed oedd penio pêl dro ar ôl tro. Er bod y canlyniadau hyn yn swnio fel rhai sy’n peri pryder, astudiaeth fach, ddisgrifiadol oedd hon, ac nid yw wedi profi mai penio’r bêl dro ar ôl tro oedd achos y niwed i’r ymennydd a welwyd yn y chwaraewyr. Dywedodd Dr Helen Ling, prif awdur yr astudiaeth:
mae’n bwysig nodi mai astudio nifer fechan yn unig o bêl-droedwyr wedi ymddeol sydd â dementia a wnaethom, ac nad ydym yn gwybod o hyd pa mor gyffredin yw dementia ymhlith pêl-droedwyr... Y cwestiwn ymchwil pwysicaf felly yw darganfod a yw dementia yn fwy cyffredin mewn pêl-droedwyr nag yn y boblogaeth arferol.
Mae’r astudiaeth yn nodi cynigion ar gyfer y gwaith ymchwil pellach y byddai ei angen i gadarnhau’r berthynas achosol bosibl rhwng enseffalopathi trawmatig cronig ac ergydion pen ailadroddus wrth chwarae pêl-droed. Mae’n gadarnhaol gweld y sefydliadau academaidd yng Nghymru ar flaen y gad mewn ymchwil yn y maes, ac rwy’n gobeithio y bydd hyn yn parhau.
Dywedodd Dr David Reynolds o Alzheimer’s Research UK y gall manteision ymarfer corff rheolaidd o ran atal dementia yn hawdd orbwyso unrhyw risg, yn enwedig i’r rhai sy’n chwarae pêl-droed fel gweithgaredd hamdden.
Ar ôl darllen yr adroddiadau hyn, gofynnais am gyngor gan ein prif swyddog meddygol ein hunain. Tynnodd hyn sylw at drafodaeth rhwng pedwar prif swyddog meddygol y DU pan gytunwyd rhyngddynt nad oedd yr achosiaeth wedi ei sefydlu’n ddigonol i gefnogi gwaharddiad ar beniadau pêl-droed. Yn ogystal â rhoi blaenoriaeth i ddiogelwch mewn chwaraeon, mae’r Llywodraeth hon hefyd wedi bod yn rhagweithiol o ran ceisio lleihau risgiau mewn gwahanol fathau o ddementia. Ceir tystiolaeth glir y gall ffordd o fyw iach leihau’r risg o ddementia hyd at 60 y cant. Gall dilyn y lefelau a argymhellir o weithgarwch corfforol ynddo’i hun leihau’r risg o rai mathau o ddementia 20 i 30 y cant. Mae ein hymgyrch i leihau risg o ddementia yn galw ar bobl i weithredu yn awr i leihau eu risg o ddementia drwy ddewis ffyrdd o fyw iach ac egnïol.
Felly, i gloi, rwy’n cytuno ei bod yn bwysig bod ymchwil i enseffalopathi trawmatig cronig yn parhau, a’n bod yn gallu helpu i leihau’r risgiau o enseffalopathi trawmatig cronig yn awr ac yn y dyfodol mewn ffordd ddeallus a chymesur. Rwy’n ddiolchgar unwaith eto am y cyfle i drafod y mater pwysig hwn, a hoffwn gynnig cyfarfod pellach gyda Steffan i drafod yr awgrymiadau penodol a oedd ganddo yn y ddadl heddiw. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Dyna ddiwedd ein trafodion am heddiw. Diolch i chi i gyd.