Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 29 Mawrth 2017.
Croesawaf y cynnydd hwnnw. O ran yr enw da sydd gan systemau iechyd y DU yn rhyngwladol mewn perthynas â darparu gwerth da am arian, rhoddir cryn bwyslais ar rôl meddygon teulu fel porthorion i rannau llawer mwy costus o’r system, yn enwedig mewn ysbytai. O ystyried y pwysau ar feddygon teulu, oni fyddai o fudd i’r Ysgrifennydd iechyd, o bosibl, gyda’r diffygion y mae’n eu hwynebu mewn ysbytai a’r pwysau ar rannau eraill o’r system, pe gallai sicrhau cynnydd mwy byth yn y buddsoddiad mewn meddygon teulu a’r broses o’u recriwtio?