2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru ar 29 Mawrth 2017.
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi unrhyw sicrwydd o gynyddu’r gyfran o wariant cyllideb y GIG ar ofal sylfaenol yng Nghymru? OAQ(5)0143(HWS)
Rydym eisoes yn buddsoddi mwy mewn gofal sylfaenol yng Nghymru. Ar y cyfan, rydym yn gwario oddeutu 22 y cant o’n cyllideb iechyd ar wasanaethau gofal sylfaenol. Rwy’n darparu £43 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol drwy’r gronfa gofal sylfaenol genedlaethol, a chyhoeddais yn ddiweddar y bydd y contract meddygon teulu newydd yn sicrhau cynnydd o £27 miliwn yn y buddsoddiad yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.
Croesawaf y cynnydd hwnnw. O ran yr enw da sydd gan systemau iechyd y DU yn rhyngwladol mewn perthynas â darparu gwerth da am arian, rhoddir cryn bwyslais ar rôl meddygon teulu fel porthorion i rannau llawer mwy costus o’r system, yn enwedig mewn ysbytai. O ystyried y pwysau ar feddygon teulu, oni fyddai o fudd i’r Ysgrifennydd iechyd, o bosibl, gyda’r diffygion y mae’n eu hwynebu mewn ysbytai a’r pwysau ar rannau eraill o’r system, pe gallai sicrhau cynnydd mwy byth yn y buddsoddiad mewn meddygon teulu a’r broses o’u recriwtio?
Nid wyf yn cytuno’n llwyr â’ch cyfeiriad at feddygon teulu fel porthorion. Mae meddygon teulu yn llawer mwy na phorthorion i rannau eraill o’n system a’n gwasanaeth gofal iechyd. Yr hyn a wnawn yn gynyddol gyda’n partneriaid yng Ngholeg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a Chymdeithas Feddygol Prydain yw ceisio datblygu agenda gytûn ar sicrhau tîm amlddisgyblaethol ehangach, gyda meddygon teulu’n arweinwyr hanfodol ar gyfer gofal sylfaenol. Mae’r gwaith sy’n cael ei wneud mewn clystyrau gofal sylfaenol yn galonogol iawn. Ac mae’n deg dweud—a chredaf fy mod wedi dweud hyn eisoes—fod nifer o feddygon teulu wedi bod yn gymharol sinigaidd ynglŷn â chlystyrau pan gawsant eu cyflwyno, pa un a fyddai’n ymarfer biwrocrataidd yn hytrach na’n ddatblygiad ac yn welliant i’r gwasanaeth, i’w helpu i ymdopi â’r pwysau gwirioneddol y maent yn ei wynebu. Ond mae clystyrau wedi cael cefnogaeth go iawn, a gall y meddygon teulu eu hunain weld sut y mae gwasanaethau yn cael eu datblygu a’u darparu o dan eu harweinyddiaeth hwy i wella ansawdd y gofal a ddarperir ganddynt, ond hefyd er mwyn gwneud rhywbeth ynglŷn â’r pwysau y maent yn ei wynebu ar y gweithlu.
Felly, byddwn yn parhau i ddarparu buddsoddiad i gefnogi ein nodau a’n hamcanion er mwyn sicrhau bod gofal sylfaenol yn parhau i fod yn injan y GIG yma yng Nghymru, a byddwn yn parhau i barchu meddygon a chael trafodaethau go iawn gyda hwy a gweithwyr gofal iechyd eraill. Bydd rhagor gennyf i’w ddweud dros weddill y flwyddyn hon ynglŷn â recriwtio yn ogystal â sawl mater arall.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn amlwg, yn gynharach yr wythnos hon, rhoddwyd cryn sylw i’r ffaith fod pedwar o’r byrddau iechyd yn wynebu heriau ariannol sylweddol, ddwywaith cymaint â’r hyn y mae eu byrddau cyfatebol ar yr ochr draw i Glawdd Offa yn eu hwynebu, a bydd ad-drefnu rhai o’u gwasanaethau wrth reoli’r pwysau cyllidebol hwnnw yn gryn her i lawer o’r byrddau iechyd hyn. Pa mor hyderus ydych chi y bydd y pedwar bwrdd iechyd—yn enwedig Hywel Dda, sydd â diffyg o bron i 10 y cant yn ei gyllideb ar gyfer eleni—yn gallu ad-drefnu gwasanaethau i’r sector sylfaenol, o ystyried y pwysau sy’n eu hwynebu, ar eu cyllideb, gan reoli’r hyn sydd ganddynt yn unig?
Nid wyf yn derbyn eich disgrifiad fod y diffyg ddwywaith cymaint â’r diffyg ar yr ochr arall i’r ffin. Mae dros 90 y cant o ymddiriedolaethau Lloegr yn wynebu diffyg. Nid wyf yn ei dderbyn fel darlun cywir a gonest o’r sefyllfa. O ran realiti ymdopi o fewn eu gallu a llwyddo i ad-drefnu gwasanaethau a darparu—gofal sylfaenol ar ei newydd wedd—mae hynny, mewn gwirionedd, yn dibynnu ar ein perthynas gyda’n partneriaid. Mae’n dibynnu ar ein gallu i recriwtio’r cymysgedd cywir o staff i weithio mewn ffordd wahanol. Mewn gwirionedd, ein cyfeiriad teithio yw annog pobl i weithio yng Nghymru, ac i aros yng Nghymru hefyd. Mae’n amgylchedd gwell i feddygon teulu weithio ynddo, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol eraill hefyd.
Ni ddaw adeg byth pan na fydd pwysau ariannol ar y GIG—ac nid wyf yn ceisio esgus y bydd. Ond ni chredaf fod y sgyrsiau ynglŷn â’r prif ddiffygion a drafodwyd gennym yn helaeth dros y deuddydd diwethaf yn esgus o unrhyw fath dros beidio â bwrw ymlaen â chyflwyno llawer mwy o bwyslais ar ofal sylfaenol, o ran symud gwasanaethau i ofal sylfaenol, a chydnabod pwysigrwydd allweddol y maes hwn o’r gwasanaeth ar gyfer dyfodol ein gwasanaeth iechyd gwladol.
A gaf fi nodi pwynt o drefn, Llywydd?
Na chewch.