<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 29 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:30, 29 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Ddoe, gofynnodd fy nghyd-Aelod, Steffan Lewis, i’r Prif Weinidog ailagor uned amenedigol arbenigol ar gyfer mamau a’u babanod, wedi i’r uned olaf yng Nghymru gau yn 2013. Dywedodd y Prif Weinidog fod llai na phump o famau newydd wedi cael eu hatgyfeirio yn y blynyddoedd diwethaf at uned cleifion mewnol yng Nghymru. Nid oedd gennyf unrhyw syniad am beth oedd yn sôn—nid oes gennym uned mam a’i baban yng Nghymru. O ble y cafodd y ffigur pump, nid oes gennyf unrhyw syniad chwaith. Ond ei ddadl ef oedd nad yw’r galw yno.

Rhwng mis Ionawr 2015 a mis Ionawr 2017, rydym wedi nodi 21 o fenywod yn ardal Caerdydd yn unig a fyddai wedi cael eu derbyn i uned, pe bai un wedi bod ar gael. O’r rheini, atgyfeiriwyd chwech ohonynt at uned y tu allan i’r ardal, ond dwy’n unig a aeth mewn gwirionedd, gan nad oedd y lleill am gael eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd. A ydych yn derbyn bod y galw’n uwch na’r hyn a awgrymodd y Prif Weinidog ddoe?