Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 29 Mawrth 2017.
Ond mae ble y mae unedau wedi’u lleoli yn bwysig. Mae’n bwysig o ran mynediad, fel y mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yn ei ddweud. Mae’n eithaf amlwg, rwy’n credu, o’n ffigurau a’n hastudiaethau achos, mai canlyniadau prynu darpariaeth allanol yw mamau’n dewis peidio â chael triniaeth cleifion mewnol yn lle triniaeth sy’n golygu cael eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd. Felly, mae gofal cleifion wedi dioddef. Mae yna faterion sy’n ymwneud â diogelwch plant yn dod i’r amlwg yma, ac nid yw’n gwneud unrhyw synnwyr ariannol chwaith. Mae wedi dod yn amlwg bod y gwasanaeth sy’n cael ei gomisiynu yn Lloegr, er yn trin llai o gleifion, wedi bod yn fwy costus yn y pen draw. Ymddengys bod eich Llywodraeth wedi dilyn trywydd canoli a phrynu darpariaeth allanol yn ddi-gwestiwn. Ac ar y mater hwn yn benodol, onid yw’n bryd i chi gyfaddef eich bod yn anghywir?