Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 29 Mawrth 2017.
Gadewch i mi roi ychydig o gymorth i chi gyda hynny felly. Mae’r data y mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi’i gael gan fyrddau iechyd yn dangos bod pryder, straen, iselder ac afiechydon seiciatrig amhenodol eraill wedi effeithio ar 7,945 o aelodau staff y GIG yn 2015-16. Collodd y 7,945 aelod staff gyfanswm o 345,957 diwrnod o waith, sy’n gyfwerth â 948 mlynedd o oriau gwaith a gollwyd i’r GIG mewn un flwyddyn. Dyna werth 948 mlynedd o oriau gwaith. Ysgrifennydd y Cabinet, byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn gwybod beth fyddwch chi’n ei wneud i fynd i’r afael â’r mater hwn. A chofiwch, ffigurau’n ymwneud â materion iechyd meddwl yn unig oedd y rhain. Nid oeddent yn cynnwys absenoldebau oherwydd clefydau eraill, cyflyrau cyhyrysgerbydol, neu unrhyw anhwylder corfforol arall.