Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 29 Mawrth 2017.
Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, gellir cymharu gorwariant y byrddau iechyd lleol â’r symiau mawr a werir ar nyrsys asiantaeth. Y llynedd, roedd y GIG yng Nghymru yn gwario £2.5 miliwn bob wythnos ar staff asiantaeth, a fydd yn ddi-os yn cael ei dorri y flwyddyn nesaf. Fodd bynnag, yn syml iawn, nid oes gennym staff parhaol ar gael i wneud yn iawn am y diffyg, felly gofal cleifion fydd yn dioddef. Ysgrifennydd y Cabinet, sut y bydd eich Llywodraeth yn sicrhau bod byrddau iechyd lleol yn cael eu hariannu’n ddigonol i ddarparu lefelau staffio diogel yn ystod y flwyddyn ariannol sydd i ddod?