Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 29 Mawrth 2017.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Pasiodd y Cynulliad y Ddeddf lefelau staff nyrsio y llynedd gyda’r addewid y byddai’r ddeddfwriaeth newydd hon yn darparu mesurau diogelu ar gyfer diogelwch cleifion ac yn rhoi diwedd ar sefyllfaoedd lle y mae nyrsys yn teimlo nad oes ganddynt ddigon o amser i ofalu am gleifion yn iawn. Ar hyn o bryd mae eich Llywodraeth yn ymgynghori ar y canllawiau statudol nad ydynt yn cynnwys unrhyw gyfeiriad at y cymarebau nyrsys i gleifion argymelledig nac unrhyw sôn am statws ychwanegol prif nyrsys ward. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn cytuno â mi fod yr ymgynghoriad hwn yn anfon y neges anghywir am lefelau staffio diogel, ac a wnewch chi ymrwymo i adolygu’r canllawiau fel eu bod yn cynnwys popeth a addawyd pan oedd y Ddeddf yn cael ei thrafod?