<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 29 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 2:47, 29 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Dylai lefelau staffio diogel fod yn berthnasol i bob lleoliad. Wrth i ni symud at wasanaeth iechyd sy’n anelu at ddarparu mwy a mwy o wasanaethau yn y gymuned, mae’n rhaid i ni sicrhau nad oes gan dimau nyrsio cymunedol lwyth gwaith gormodol o ran cleifion. Mae nifer y nyrsys ardal sy’n gweithio yng Nghymru wedi gostwng dros 40 y cant yn y blynyddoedd diwethaf, ond yn ôl Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru, mae eu llwyth gwaith wedi cynyddu ddeg gwaith. Pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i gyflwyno lefelau staffio diogel ar gyfer nyrsys cymunedol a pha gamau rydych yn eu cymryd i gynyddu nifer y nyrsys ardal a lleihau eu llwyth gwaith?