Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 29 Mawrth 2017.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, ond tybed a ydych yn bwriadu gweithio—neu a ydych yn gweithio gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru? Oherwydd cyhoeddwyd adroddiad gennych yn ddiweddar, wrth gwrs, a oedd yn dwyn y teitl ‘Gwasanaethau Meddygon Teulu yng Nghymru: Safbwynt Pobl Hŷn’, ac roedd yn dangos bod llawer gormod o’r boblogaeth hŷn yn ei chael yn anodd gwneud apwyntiad, yn credu bod y gwasanaeth meddygon teulu yn anhyblyg ac yn methu ymateb i’w hanghenion a’u hamgylchiadau unigol, yn methu cydnabod yr anawsterau a wynebant wrth geisio cael mynediad neu lythrennedd TG, neu wrth ddefnyddio dulliau cyfathrebu technoleg gwybodaeth. Felly, rwy’n meddwl tybed beth rydych chi a’ch Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau nad yw pobl hŷn yn teimlo bod yr un lle y dylent allu cael mynediad ato’n rhwydd yn cael ei gau oddi wrthynt yn araf bach mewn gwirionedd.