Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 29 Mawrth 2017.
Rwy’n cydnabod yr her, ac wrth gwrs, nid pobl hŷn yn unig sy’n wynebu anawsterau rhag cael mynediad at ofal sylfaenol ar brydiau. Nid yw’r mwyafrif helaeth o bobl yn cael anawsterau, ond os ydych mewn ardal lle y mae’n her, nid yw’n help i chi wybod mewn gwirionedd fod mynediad yn llawer haws mewn mannau eraill yng Nghymru. O ran manylion adroddiad y comisiynydd pobl hŷn, rwyf eisoes wedi ysgrifennu at y byrddau iechyd yn tynnu sylw at yr argymhellion ac yn nodi fy mod yn disgwyl iddynt ymateb iddynt. Oherwydd yn y ffyrdd newydd o weithio sy’n cael eu datblygu, mae angen bob amser i weithwyr proffesiynol sy’n rhedeg ac yn darparu’r gwasanaeth i’w trafod gyda’u cleifion, fel eu bod yn deall yr hyn y gallant ei ddisgwyl a sut i wneud y defnydd gorau o unrhyw newid yn y system. Oherwydd rwy’n cydnabod bod hwn yn faes sydd angen ei wella, ac mae hynny’n rhan o’n trafodaethau gyda Chymdeithas Feddygol Prydain drwy Bwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru.